Cost of Living Support Icon

Gwefan Llesiant Dewis Cymru yn lansio yn y Fro


01 Awst 2017

 

Mae Dewis Cymru, cyfeiriadur ar-lein un-tro ar gyfer llesiant yng Nghymru wedi ei lansio yn y Fro gyda chefnogaeth gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

Mae’r wefan yn galluogi defnyddwyr i gyrchu gwybodaeth am wasanaethau mewn meysydd fel iechyd, gofal, budd-daliadau, rheoli arian, clybiau, gweithgareddau a chymorth i deuluoedd.

 

Dewisimage

Gall pobl sy’n mynd i’r wefan www.dewis.wales ddewis y categori sydd o ddiddordeb iddynt ac mae ystod o gyngor a dolenni at wasanaethau ar gael.

 

Mae hefyd yn bosib defnyddio cod post i chwilio yn ôl lleoliad i ddod o hyd i wasanaeth penodol, neu weithgaredd mewn ardal arbennig.

 

Mae’r cyfeiriadur yn cwmpasu Cymru gyfan ac eisoes mae 1,200 o adnoddau llesiant wedi eu cofrestru arno ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg a bron i 5,000 ar gyfer Cymru gyfan.

 

Wedi ei greu er mwyn ymgorffori Deddf Llesiant Cymru newydd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, nod Dewis Cymru yw gwneud gwybodaeth am wasanaethau a chymorth yn hygyrch i’r bobl sydd ei hangen.

 

Mae hefyd yn bosib ychwanegu manylion gwasanaethau cymorth y gallech chi fod yn ymwneud â nhw.

 

Dywedodd y Cyng. Gordon Kemp, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden: “Mae hwn yn adnodd ffantastig ar gyfer pobl yn y Fro sy’n chwilio am wybodaeth am unrhyw un o blith nifer o bynciau yn ymwneud â llesiant.

Fel Cyngor, rydym wrth ein bodd yn cefnogi arf mor bwysig a gwerth chweil.

 

“Mae cyfoeth o gyngor ar gael ar ystod helaeth o bynciau o reoli eich arian i ofalu am rywun. Mae Dewis Cymru hefyd yn lle defnyddiol dros ben i unrhyw un fynd er mwyn dod o hyd i fanylion clybiau, gweithgareddau a chymorth sydd yn agos iddynt. 

 

Dewislogo

“Mae ystod y cyngor a’r wybodaeth sydd ar gael yn drawiadol tu hwnt ac mae’n werth mynd i’r wefan.”