Cost of Living Support Icon

Agor Gerddi Cemetery Approach

 

23 Mehefin 2017

 

MAE Gerddi Cemetery Approach wedi’u hagor yn swyddogol gan gynrychiolwyr Cyngor Tref y Barr


Yn rhan o gam un y prosiect mae’r ardal wedi'i gweddnewid yn fan agored a hygyrch i’r gymuned ei fwynhau drwy gyflwyno cynllun, ffensys, seddi, planhigion a phalmentydd newydd.


oneErs 2015, mae’r Cynghorau Tref a Sir wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i wella’r safle, a fu'n ddiffaith gynt, drwy fuddsoddi swm o £550,000 yn y cynllun yn y lle cyntaf.


Bu ymgynghoriad â’r cyhoedd ar enw’r ardal newydd a daeth i’r amlwg maiGerddi Cemetery Approach oedd yn cael ei ffafrio. 

 

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn trosglwyddo'r tir i Gyngor Tref y Barri ar brydles hirdymor.


Mae gan Fynwent Merthyr Dyfan statws baner werdd eisoes - cydnabyddiaeth o fan awyr agored o’r safon uchaf - a'r gobaith yw y bydd y gerddi'n cael eu hanrhydeddu yn yr un modd yn y dyfodol.


Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Arweinydd Cyngor Tref y Barri: “Rwy'n hapus iawn ein bod, drwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, wedi datblygu'r cynllun cyffrous hwn i ailddefnyddio safle sydd wedi’i esgeuluso er budd trigolion y Barri. Rwy’n edrych ymlaen at weld pobl yn defnyddio'r gerddi hyn a'r man agored mewn ardal o’r Barri sy’n boblogaidd gan lawer ar drothwy Mynwent Merthyr Dyfan."


Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Drwy weithio gyda'n gilydd mae Cyngor Bro Morgannwg a Chyngor Tref y Barri wedi gallu gweddnewid llain o dir a fu’n ddiffaith gynt yn fan awyr agored atyniadol ac rydyn ni'n gobeithio y gall y gymuned gyfan ei fwynhau. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu mannau gwyrdd yn y Fro ac ar hyn o bryd mae modd i ni ymfalchïo mewn saith parc sydd â Statws Baner Werdd.”