Cost of Living Support Icon

Llewyrch i gymunedau gwledig Bro Morgannwg

 

19 Mehefin 2017

 

Gall cyllid o hyd at £1,000 fod ar gael ar gyfer mentrau arloesol ym Mro Morgannwg sy’n helpu i adeiladu ysbryd cymunedol yn eu hardaloedd.

 

Creative-Rural-Communities-logo

Mewn ymgais i helpu cymunedau gwledig ledled y Fro, mae tîm Cymunedau Gwledig Creadigol y Cyngor (CGC) ar fin dechrau cynllun peilot i alluogi cymunedau i ddod ynghyd a rhannu eu syniadau ynghylch adeiladu ysbryd cymunedol. 

 

Gyda chynghorau tref a chymuned, cymdeithasau neuaddau pentref a chymdeithasau preswylwyr yn cael eu hannog i ddysgu gan eu profiadau ei gilydd, bydd y cynllun yn cynnig arian i grwpiau lleol i dreialu mentrau arloesol newydd sy’n dod â’r gymuned ynghyd yn rheolaidd.


Bydd y tîm CGC yn rhoi cefnogaeth, a chynnig arweiniad, trwy gydol y project a galluogi’r grŵp i ddatblygu eich syniad, a chreu dyfodol cynaliadwy.


Cafwyd esiamplau gwych o fentrau tebyg yn y gorffennol, megis sinema gymunedol Llancarfan, gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr ac sydd wedi profi’n ffordd wych o ddwyn cymunedau ynghyd. Mae Project Rhandiroedd Cymunedol Treoes wedi cynnwys eu cymuned drwy rannu cyngor ar dyfu bwyd, tra bo marchnad fwyd fisol Llanbedr-y-fro a’r pantomeim blynyddol yn dwyn trigolion ynghyd gydol y flwyddyn.


Os oes syniad tebyg gennych chi y tybiwch a all ddwyn cymuned wledig ynghyd, cysylltwch â'ch tîm CGC i drafod eich syniadau drwy ffonio 01446 704226 neu drwy e-bostio create@valeofglamorgan.gov.uk