Cost of Living Support Icon

Gwobr i athrawes yn Ysgol y Deri am waith all “newid bywyd”

 

16 Mehefin 2017

 

Mae athrawes yn Ysgol y Deri ar restr fer i ennill gwobr addysgu genedlaethol mawr ei bri am ei gwaith i newid bywydau drwy helpu disgyblion i gyfathrebu gan ddefnyddio technoleg gynorthwyol.

 

Ysgol y Deri pupilsi with award winning teacherMae Lisa Rees-Renshaw, sy’n gweithio yn Ysgol Penarth, yn arbenigo mewn datblygu’r defnydd o drem llygad a thechnoleg switsh gyda disgyblion na all siarad.

 

Mae’r rhain yn ddulliau sy’n caniatáu i’r defnyddiwr reoli system lais gyfrifiadurol trwy symudiadau bach gan y corff.

 

Mae gwaith Ms Rees-Renshaw yn y maes hwn wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Addysgu Arian Pearson yn y categori Defnydd Rhagorol o Dechnoleg mewn Addysg, gyda chefnogaeth Google, a gyflwynwyd iddi gan Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg John Thomas ar Ddiwrnod Diolch i Athro ddydd Gwener.

 

Wedi ei henwebu’n wreiddiol gan ddisgybl a’i fam, enwebwyd Ms ReesRenshaw yn ffurfiol gan Ddirprwy Bennaeth Ysgol y Deri, Josie McAllister. Aeth y Beirniaid i ymweld â’r ysgol i gwrdd â disgyblion, staff a rhieni cyn gwneud eu penderfyniad.

 

Mae hi’n un o 56 i dderbyn gwobr arian o blith y miloedd a enwebwyd a bydd yn mynychu te dathlu yn Nhŷ’r Cyffredin fis nesaf. Bydd Ms Rees-Renshaw nawr yn mynd yn ei blaen i rownd derfynol Gwobrau Addysgu Pearson yn Llundain ar 22 Hydref, lle bydd cyfle ganddi i dderbyn un o blith 11 gwobr Aur.

 

Bydd hon yn noson uchel iawn ei phroffil, yn cael ei darlledu ar y BBC gydag enwogion fel Tony Blair a David Cameron wedi cyflwyno’r gwobrau yn y gorffennol.

 

Dywedodd Ms Rees-Renshaw: “Mae’n anrhydedd derbyn gwobr yn y fath fodd am y gwaith rwy’n ei wneud ond rwy’n edrych arno fel adlewyrchiad o ymroddiad ac ymrwymiad tîm o staff yn ein hysgol.  Gyda’n gilydd gallwn bellach gynnig cyfleoedd yn ddyddiol i grŵp anhygoel o ddisgyblion. Gan ddefnyddio ystod eang o dechnoleg, gallant gyfathrebu, cyrchu addysg, datblygu annibyniaeth ac, uwchlaw popeth, gael rhywfaint o reolaeth dros eu bywydau. 

 

“Clywed disgyblion yn dweud wrthoch chi fod y dechnoleg sydd ganddynt nawr yn “newid bywyd” yw’r wobr fwyaf y gallwn fod wedi ei derbyn – mae’n gwneud i chi sylweddoli pa mor bwysig yw eich gwaith i’r disgyblion a’u teuluoedd.  

 

“Dwi ddim yn meddwl am yr hyn rwy’n ei wneud yn Ysgol y Deri fel gwaith, mae’n rhywbeth dwi’n caru ei wneud! Mae’n lle gwych i fod, yn llawn pobl sy'n becso!”

 

Bob Penrose with Lisa Rees-RenshawDywedodd Pennaeth Ysgol y Deri, Chris Britten: “Does dim modd gorbwysleisio cyfraniad Lisa i’n hysgol. Fe gafodd ei henwi’n benodol gan Estyn am ei harfer rhagorol ac mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i newid bywydau cymaint o blant. Mae’n llawn haeddu’r gydnabyddiaeth ac fe garem gymryd y cyfle hwn i ddiolch iddi ar ran yr holl ddisgyblion, staff a rhieni am y gwaith gwych y maen ei wneud bob dydd.”

 

Mae Gwobrau Addysgu Pearson yn ddathliad blynyddol o athrawon eithriadol, a gafodd ei greu er mwyn cydnabod yr effaith anferth y gall athro ysbrydoledig ei gael ar fywydau’r bobl ifanc y maen nhw’n eu dysgu. 

 

Bydd y seremoni hon, “Britain’s Classroom Heroes”, yn cael ei darlledu i arddangos rhagoriaeth ym maes addysg.

 

Dywedodd Llywydd newydd ei benodi Gwobrau Addysgu Pearson, y nofelydd plant arbennig Michael Morpurgo: “Mae bod yn athro ysbrydoledig yn ymrwymiad difrifol a chlodwiw.  Dylid dathlu addysgu cofiadwy a rhagorol ymhlith addysgwyr, disgyblion, rhieni a ledled y gymdeithas gyfan.  Gyda’r gwobrau hyn rydym yn neilltuo amser i gydnabod ymdrechion rhyfeddol athrawon gwych ledled y wlad nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigon aml.”

 

Dywedodd Rod Bristow, Llywydd Pearson UK: “Mae’n anrhydedd i ni gefnogi’r Gwobrau Addysgu bob blwyddyn. Gall addysgu gwych gael effaith enfawr ar addysg plentyn felly mae’n allweddol i ni gydnabod a dathlu athrawon ysbrydoledig, am eu hymrwymiad i addysgu a dysgu ac am wella cyfleoedd bywyd y genhedlaeth nesaf.  Dylai pob un sy’n derbyn gwobr arian heddiw deimlo’n hynod falch o’r hyn a gyflawnwyd ganddynt ac rwy’n edrych ymlaen i gael cwrdd â nhw yn y seremoni derfynol yn ddiweddarach eleni.”