Cost of Living Support Icon

Awduron Enwog a Hwyl i’r Teulu yn Lansiad Llyfrgell Gymunedol Sain Tathan 

21 Mawrth 2017

author-collage-st-athanDarlleniadau gan bump awdur plant enwog fydd y prif atyniad yn ‘lansiad mawr’ Hyb a Llyfrgell Gymunedol Sain Tathan ddydd Sadwrn 1 Ebrill 2017. 

 

Bydd cyflwynydd teledu BBC Wales Lucy Owen yn perfformio darlleniadau i’r teulu yn y Gymraeg a’r Saesneg o’i llyfr newydd i blant "Boo-a-bog in the Park”. 

 

Bydd Wendy Hobbs, awdur straeon Claudia Quash, Anthony Lavisher, awdur y nofelau ffantasi Storm, Michelle Briscombe, awdur Silent Mountain a The House on March Lane, a Phil Carradice, awdur Hannah’s War a sawl teitl arall, hefyd yn darllen yn y digwyddiad. 

 

Phil Carradice, Darlledwr y BBC, nofelydd a hanesydd, fydd meistr y seremonïau gydol y dydd o 11am i 5pm. 

 

Dywedodd Wendy Hobbs:  “Mae’n bleser gennyf eich gwadd i lansiad mawr Llyfrgell Sain Tathan ac rwy’n edrych ymlaen at

gwrdd â’r plant a darllen The Spell of Pencliff a Claudia's Special Wish.  Anturiaethau arbennig i bawb o bob oed!”  

 

Yn ystod y lansiad hefyd bydd logo newydd y llyfrgell a ddyluniwyd gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Sain Tathan yn cael ei ddadorchuddio.

 

St Athan Library

Darperir y gerddoriaeth gan ddwy delynores Gymraeg draddodiadol.  Bydd Côr yr Ysgol Gynradd hefyd yn canu a Band Iau Gwirfoddol yr RAF yn chwarae.  

 

Dywedodd Graham Mallaghan, Cadeirydd Ymddiriedolwyr elusen SACHaL:  “Mae Llyfrgell Sain Tathan wedi bod yn adnodd poblogaidd yng nghalon ein cymuned.  

 

“Yn ein diwrnod codi cyfeillgarwch ar 1 Ebrill rydym eisiau dangos nid yn unig y bydd y berthynas allweddol hon yn parhau, ond yn tyfu’n gryfach, nawr bod y llyfrgell wedi cael ei rhoi yn nwylo'r bobl.  

 

“Rydym am i bawb wybod bod y llyfrgell yma iddyn nhw, ac y bydd yn cydweithredu'n bwerus â sefydliadau lleol eraill er lles pawb. 

 

“Ar y diwrnod hwn bydd sefydliadau cymunedol Sin Tathan yn dechrau dangos y manteision o gyd-gynhyrchu.” 


Mae mwy o wybodaeth am raglen y dydd ar gael yn https://sites.google.com/stathancommunityhubandlibrary.org/sachal