Cost of Living Support Icon

Y cyngor i ddangos i yrwyr sut i barcio'n dwt!

14 Mawrth 2017

Mae ymgyrch newydd wedi ei lansio i fynd i’r afael â pharcio anystyriol ym Mro Morgannwg.  

 

Park tidy launch

Gydol 2017, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn annog pob gyrrwr i ‘Barcio’n Dwt’ fel rhan o ymgyrch fydd yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. 


Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Adeiladu, Priffyrdd a Chludiant: “Rydyn ni i gyd yn gwybod bod parcio anystyriol a pheryglus yn boendod mawr i drigolion y Fro. 


“Fel sy’n arferol, lleiafrif bach o bobl sy’n creu’r anawsterau hyn. Mae gan yr ymgyrch hon ddau nod. Yn gyntaf, tynnu sylw at y ffaith bod parcio amhriodol yn beryglus, er mwyn ceisio annog pobl i feddwl cyn parcio. Yn ail, ei gwneud hi’n haws i fodurwyr cyfrifol roi gwybod i ni am barcio gwael er mwyn i ni allu delio ag e. 


“Mae parcio anghyfrifol yn gyffredin iawn y tu allan i ysgolion a ger cyffyrdd prysur. Byddwn yn canolbwyntio ar yr ardaloedd hynny. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth am yr anghyfleustra mae parcio ar hyd cyrbau ag ymylon isel neu ar balmentydd yn ei greu i bobl eraill.


“Drwy ddangos i bobl sut i Barcio’n Dwt, ein gobaith yw y gallwn leihau parcio anystyriol yn y Fro a lleihau felly y mesurau gorfodi y mae’n rhaid i ni eu rhoi ar waith.”


Gallwch hysbysu’r Cyngor am barcio anystyriol ar-lein yn neu drwy ffonio 01446 700111.