Cost of Living Support Icon

Cloddwyr ahoi! Bydd parc pen y clogwyn yn cael ei ddiweddaru ar y thema môr-ladron

 

08 Mawrth 2017

 

Bydd ffrâm ddringo bron 4 metr o uchder o'r enw 'Nyth y Brain' yn rhan o Ardal Chwarae newydd Llwybr y Clogwyn, wrth i Gyngor Bro Morgannwg ddechrau ar y gwaith adnewyddu gwerth £100,000 ar y thema môr-ladron.

 Cllrs Burnett and John at Cliff Walk Park

 

Bydd y ‘nyth’ yn edrych dros ystod o osodiadau newydd ym mharc Penarth, ac mae disgwyl i'r gwaith fod wedi'i gwblhau cyn gwyliau'r Pasg.


Gyda si-so octopws, uned chwarae ar siâp llong fawr, siglen gyda dwy sedd, bariau trosben dwbl a cherrig cerdded, ynghyd â nodweddion eraill, mae disgwyl i'r parc gynnwys amrywiaeth o bethau a fydd yn addas i blant o bob gallu.


Roedd bod yn gynhwysol yn agwedd hanfodol wrth greu'r cynlluniau ar gyfer y parc, gydag arwynebau hygyrch i ac o amgylch yr ardaloedd chwarae aml-swyddogaeth yn ased gwerthfawr.  Yn ôl y sôn, mae'r cynnyrch yn y parc yn cynnwys cyfleoedd chwarae amrywiol y mae modd cael mynediad atynt o bobman.


Yn ogystal, mae disgwyl i gylchfan sy’n addas i gadeiriau olwyn gael ei datgelu, ychwanegiad a gafodd ei gynnwys yn ddiweddar wrth i’r Cyngor adnewyddu Sgwâr Plassey.  Roedd Anna Murphy, cyd-sefydlwr Oshi’r World, sef elusen leol sy’n cefnogi teuluoedd plant ag anableddau ac anghenion arbennig, yn rhan o’r broses o ymgynghori â’r Cyngor ynghylch cynnwys y gylchfan sy'n addas i gadeiriau olwyn.


Mae oddeutu £200,000 wedi’i glustnodi o Gronfa Wrth Gefn Gwasanaethau Gweladwy’r Cyngor i wella ardaloedd chwarae Llwybr y Clogwyn a Cwrt y Vil, ynghyd â Peterswell Road a St Lythan’s yng Nghwm Talwg.


O hyn, cafodd £110,000 ei glustnodi ar gyfer Parc Llwybr y Clogwyn Penarth, ac mae'r Cyngor wedi cyfrannu £4,000 pellach i ychwanegu'r gylchfan sy'n addas i gadeiriau olwyn, y mae'r contractwr - Sunshine Playgrounds - wedi cytuno i’w gosod am ddim. 


Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg: “Mae gwella saith o barciau a mannau agored ledled Penarth wedi dod yn sgil ymgynghori gyda phreswylwyr lleol dros y flwyddyn ddiwethaf, gydag arolygon ar-lein a sesiynau galw heibio yn galluogi’r cyhoedd i ddweud beth hoffent ei weld wedi’i gynnwys.


“Rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau y gall plant o bob gallu chwarae gyda’i gilydd ym Mharc Llwybr y Clogwyn. Edrychaf ymlaen at eu gweld nhw’n mwynhau'r nodweddion cyffrous newydd yn y dyfodol agos.”


Dechreuodd y gwaith i ddiweddaru’r parc ar 06 Chwefror, ac mae disgwyl iddo bara rhwng chwe ac wyth wythnos, gyda'r Cyngor yn disgwyl ei gwblhau cyn dechrau gwyliau'r Pasg.