Cost of Living Support Icon

Tîm Cymru yn cyhoeddi llwybr taith baton y frenhines gemau'r gymanwlad afordir aur Awstralia 2018

 

13 Mawrth 2017

 

Heddiw, yn rhan o ddathliadau Diwrnod y Gymanwlad, lansiodd y Frenhines Daith Baton y Frenhines 2018 yn swyddogol mewn seremoni agoriadol llawn enwogion ym Mhalas Buckingham.

 

Team Wales QBR mapYma yng Nghymru, mae Tîm Cymru wedi datgan y bydd Baton y Frenhines yn ymweld â nifer o gymunedau yng Nghymru ym Medi 2017 yn ystod ei daith 388-niwrnod drwy’r Gymanwlad. 


Bydd y Baton yn teithio 230,000 kilomedr drwy holl wledydd a thiriogaethau’r Gymanwlad ar ei daith tuag at Seremoni Agoriadol Gemau’r Gymanwlad Arfordir Aur Awstralia ar 4 Ebrill 2018.


Dywedodd Chris Jenkins, Prif Weithredwr Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Rydym yn hynod falch o allu cyhoeddi’r llwybr yma heddiw. Mae Tîm Cymru yn dwyn ynghyd bawb sy’n cystadlu neu’n cefnogi’n hathletwyr i’w galluogi i berfformio hyd eithaf eu gallu yng Ngemau’r Gymanwlad. Bydd y Daith gynhwysol hon yn rhoi cyfle i bawb na all ddod allan i’r Arfordir Aur gael bod yn rhan o brofiad bythgofiadwy. 


“Wrth i’r Baton deithio drwy Gymru, ein nod yw dathlu cyfoeth ac amrywiaeth ein diwylliant, treftadaeth, iaith a thirwedd ar lwyfan rhyngwladol. Bydd y Baton yn gadael Abertawe ar ddiwrnod cyntaf ei daith, cyn teithio i swyddfeydd ein noddwyr CGI ym Mhenybont, ymlaen i Ynys y Barri ac yna Butetown, Caerdydd.


“Aiff Diwrnod 2 â ni o Gasnewydd i Ysgol Trefynwy, y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant ac yna Pontypridd. Awn tua’r gogledd ar y trydydd diwrnod, o Aberhonddu i Raeadr Gwy, stopio yn ysgolion uwchradd a chynradd Llanidloes ac Ysgol Dafydd Llwyd yn y Drenewydd, cyn teithio drwy’r Trallwng ac ymlaen i Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. 
“Yn olaf, anelwn tua’r gorllewin gan ddathlu mwy o’r harddwch, diwylliant ac antur sydd gennym i’w gynnig yma yng Nghymru: o Zip World ym Mlaenau Ffestiniog awn i’r Ysgwrn, cartref plentyndod Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, cyn teithio drwy Ddolgellau, Portmeirion a Phorthmadog ac i gyrchfan derfynol y Baton yng Nghymru ym Mhwllheli.”


Bydd Taith Baton y Frenhines hefyd yn mynd heibio i Landinam, Castell Dolwyddelan, Beddgelert a Chricieth i ni gael tynnu lluniau, ond ni fydd digwyddiadau cyhoeddus ynghlwm â’r lleoliadau hyn.


Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad yn Nghaerdydd yn 1958 oedd y cyntaf i gynnal Taith Baton y Frenhines, a chafwyd cyfres o redwyr yn cario’r Baton drwy nifer o siroedd Lloegr a thair ar ddeg sir Cymru ar ei daith i Gaerdydd. Gemau’r Gymanwlad Melbourne 2006 oedd y rhai cyntaf lle gwelwyd y Baton yn ymweld â phob cenedl a thiriogaeth yn y Gymanwlad ac mae’r traddodiad hwn wedi parhau ymhob Gemau ers hynny. Nod Taith Baton y Frenhines yw rhoi cynrychiolaeth weledol o undod ac amrywiaeth holl genhedloedd y Gymanwlad. Mae’r Baton yn cario neges gan y Frenhines i athletwyr y Gemau, a chaiff hon ei darllen yn y Seremoni Agoriadol.


Meddai’r Athro Nicola Phillips, Chef de Mission Tîm Cymru ar gyfer Gemau 2018: “Dydi hi ddim yn bosibl i bawb allu mynd draw i’r Arfordir Aur i gefnogi Cymru, felly drwy ddod â Baton y Frenhines i gymunedau Cymru ein gobaith ydi ysbrydoli a sbarduno Cymry ledled y wlad i deimlo balchder yn ein hathletwyr. Cafodd Cymru lwyddiant ysgubol yng Ngemau Glasgow 2014 a’r nifer uchaf erioed o fedalau ac rydym yn hyderus y gallwn ailadrodd y llwyddiant hwn yn 2018.


“Gofynnwn i Gymru gyfan gefnogi’n hathletwyr nawr, wrth iddynt barhau ar eu taith tuag at yr Arfordir Aur ac yn ystod y Gemau eu hunain, a gobeithiwn y bydd Taith Baton y Frenhines drwy Gymru yn cyffroi ac ysbrydoli’r genedl gyfan i gefnogi’n hathletwyr cyn Gemau’r Gymanwlad Arfordir Aur Awstralia 2018.”