Cost of Living Support Icon

Cenhadon hawliau'r Fro yn codi ymybyddiaeth o hawliau plant

 

13 Mawrth 2017

 

Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi i breswylwyr ifanc y Fro a gofrestrodd ar gyfer y project Cenhadon Hawliau yn ddiweddar yng Ngholeg yr Iwerydd, Llanilltud Fawr.

 

Rights Ambassadors Team Day PhotoAr ôl ychydig fisoedd o hyfforddiant dwys, lle cwblhaodd y Cenhadon yr uned Agored Cymru Lefel 1 ynghylch Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), gwnaeth y bobl ifanc dreulio bore yng Ngholeg yr Iwerydd yn dysgu sut mae creu gweithdai i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant.


Yn ystod y prynhawn yng Ngholeg yr Iwerydd, gwnaeth y cenhadon gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau hyfforddiant gyda’r nod o ddatblygu eu sgiliau gweithio fel tîm, a fyddai, mewn tro, yn helpu i ddarparu gweithdai ledled y Fro.


Dyma drydedd flwyddyn y project llwyddiannus, sydd wedi cael ei ganmol gan Gomisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland. Roedd ymhlith y goreuon yn ffeinal y categori Project Gwaith Ieuenctid Hawliau Rhagorol yng Ngwobrwyon Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2016. 


Ers lansio yn 2014, mae’r project – a ariennir gan Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Cyngor Bro Morgannwg - wedi galluogi 53 o bobl ifanc ledled y Fro i gyflawni hyfforddiant achrededig ar y CCUHP.


Gyda chymorth gweithwyr ieuenctid cymwys o Wasanaeth Ieuenctid y Cyngor, mae'r bobl ifanc wedi cynnig 33 o weithdai i blant, pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol a chynghorwyr ledled y sir.


Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg:

 

“Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae ein Gwasanaeth Ieuenctid wedi gwneud gwaith da iawn wrth ysgogi pobl ifanc ledled Bro Morgannwg.


“Mae eu gwaith yn helpu i godi ymwybyddiaeth o restr o 42 o hawliau sydd gan blant.


“Mae'r gweithdai hyn, sy'n cael eu harwain gan y nifer gynyddol o Genhadon Hawliau, yn chwarae rôl hanfodol o ran cynyddu ymwybyddiaeth ein sir o hawliau plant."


Mae codi ymwybyddiaeth o’r CCUHP yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg. Gall ysgolion a sefydliadau ieuenctid gysylltu â'r Gweithiwr Project Cenhadon Hawliau, Geraint Evans, drwy anfon e-bost at gdevans@valeofglamorgan.gov.uk, neu drwy ffonio 02920 701254, i drefnu ymweliad gan y Cenhadon Hawliau a darparu gweithdy.