Cost of Living Support Icon

Cyngor Bro Morgannwg yn tynnu sylw at waith a wnaed gan ofalwyr ifanc


09 Mawrth 2017


230217-001

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn tynnu sylw at y gwaith a wneir gan ofalwyr ifanc i godi ymwybyddiaeth o’r disgwyliadau sy’n cael eu gosod ar ysgwyddau unigolion yn y Sir.


Rhaid i rai pobl ifanc ofalu am anwyliaid wrth geisio ymdopi â’r ysgol ac ymrwymiadau personol yr un pryd.


Mae oddeutu 1, 800 o blant a phobl ifanc sy’n byw o fewn y Fro yn y sefyllfa hon.


Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau megis yr YMCA i gynnig cefnogaeth i ofalwyr ifanc i gwblhau'r holl ddyletswyddau hyn yn eu bywydau prysur.


Mae Britney Curtis o ddinas Powys yn helpu i ofalu dros sawl aelod o’i theulu, gan gynnwys ei chwaer ieuengaf sy’n dioddef o gyflwr genetig a Mam sy'n dioddef o grud cymalau a chyflwr cefn.

 
Mae ei thad nawr hefyd yn cael trafferth a chyflwr cefn difrifol, felly mae’n rhaid i Britney gynorthwyo ag ystod o dasgau yn y cartref.


Er mwyn rhoi hoe iddi, mae’n mynychu clwb ieuenctid i ofalwyr unwaith yr wythnos ac mae hefyd wedi bod i ffwrdd ar ddyddiau o ysbaid gyda’r grŵp.


“Rwy’n edrych ar ôl fy mam a fy nhad yn ogystal â fy chwaer fach,” meddai Britney.


“Mae crud cymalu gan fy mam yn ei chluniau ac mae’n cael trafferthion gyda’i chefn hefyd. Mae’r un peth i fy nhad, ond mae e wedi malurio’i asgwrn cefn.


“Mae’n golygu y byddaf yn gorfod helpu gyda phethau fel glanhau, gwneud y golch a rhoi bath i fy mrodyr a chwiorydd. Doeddwn i ddim yn arfer credu fod hynny yn wahanol i bobl eraill. Roeddwn i’n credu fod hyn yn normal.


“Mae hynny yn gallu gwneud gwaith cartref yn anodd felly mae’n rhaid i mi aros yn yr ysgol tan 6.30 ar Ddydd Gwener er mwyn dala lan.


“Ro’n i’n arfer ei chael hi’n anodd, ond mae fy chwaer yn 13 nawr felly mae hi yn gallu fy helpu gryn dipyn a dwi’n gallu mynd allan fwy nag oeddwn i’n arfer gallu gwneud.


“Rwyf wedi bod yn edrych ar ôl fy mam ers fy mod i’n 12 ac mae’n gyfrifoldeb mawr. Roeddwn i’n arfer cael fy meirniadu llawer ac fe gollais i lawer o ffrindiau am nad oeddwn i’n gallu mynd allan i’w gweld nhw.


“Dwi wedi bod yn mynd i’r clwb ieuenctid i ofalwyr ifanc am ryw ddwy flynedd nawr ac rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau yno. Mae’n braf cael siarad â phobl sy’n ymwybodol o’r hyn rydych chi’n ei brofi am eu bod nhw yn gorfod mynd i’r afael â’r un math o beth.


“Rwyf wedi bod ar lawer o dripiau bant gyda’r grŵp ac mae’n grêt i gael hoe.”


Yn ogystal â chyfarwyddo gofalwyr ifanc at y grwpiau cymorth sydd ar gael, mae cyngor y Fro hefyd yn eu helpu nhw i gael cefnogaeth ar-lein a chwblhau hyfforddiant mewn ymdrech i wneud eu bywydau yn haws.