Cost of Living Support Icon

Y genhedlaeth nesaf o hyfforddwyr chwaraeon yn Ysgol Y Deri?

 

23 Mai 2017

 

Cwblhaodd CHWE disgybl o Ysgol y Deri gwrs Trefnwyr Chwaraeon AYP (Pobl Ifanc Egnïol) yn ddiweddar, gan roi iddynt y sgiliau i fynd ymlaen ac arwain eu sesiynau chwaraeon eu hunain yn y dyfodol.

 

Ysgol Y Deri coachesBwriad y cwrs hwn sy’n para tymor, ac a ddarperir gan dîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg, yw trosglwyddo sgiliau gwerthfawr i’w defnyddio ym myd chwaraeon.


Mae’r cwrs AYP yn gweithredu fel y cam cyntaf ar y llwybr hyfforddi, ac mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn gallu dysgu sut i gynllunio sesiynau, trefnu ymarferion cynhesu a sut i arwain gemau tîm cystadleuol mewn modd diogel. 


Ar ddiwedd y cwrs, llwyddodd bob disgybl i gyflawni elfen o sesiwn chwaraeon, a dilynwyd hyn gan gyfnod o hunanwerthuso er mwyn tynnu sylw at eu cryfderau a’r meysydd y gallent eu datblygu yn y dyfodol. 


Y gobaith yw y gall y disgyblion roi’r sgiliau hyn ar waith yn ystod y tymor, yn ogystal â chynorthwyo â’r gwaith o ddarparu Cynlluniau Gwyliau’r Fro.


Meddai Simon Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru: “Roedd hi’n wych gweithio gyda disgyblion Ysgol y Deri. Gwnaethon nhw ddangos parodrwydd go iawn i helpu â’r gwaith o ddarparu digwyddiadau chwaraeon yn ystod oriau ysgol a'r tu allan iddynt.


“Rwy’n hyderus y gall y grŵp hwn o hyfforddwyr barhau ar y llwybr hyfforddi, a dod yn esiampl gadarnhaol i’w disgyblion iau yn Ysgol y Deri.” 


Os hoffech chi, neu unrhyw un yr ydych chi’n ei adnabod, gymryd rhan mewn gwaith hyfforddi, cysylltwch â’r tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae ar 01446 704793, neu anfonwch e-bost at sljones@valeofglamorgan.gov.uk