Cost of Living Support Icon

Cadarnhau arweinyddiaeth wleidyddol Cyngor Bro Morgannwg

25 Mai 2017

Mae’r Cyng. John Thomas wedi cael ei benodi’n Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg yn dilyn pleidlais yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 24 Mai.

 

Council cabinet May 2017Ochr yn ochr â’r Cyng. Thomas, mae’r Cyng. Hunter Jarvie wedi cael ei enwi’n Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio fydd y Cyng. Jonathan Bird,  mae'r Cyng. Bob Penrose wedi cael ei benodi’n Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant, tra bydd y Cyng. Andrew Parker yn gwasanaethu fel yr Aelod Cabinet dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu. Yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden yw’r Cyng. Gordon Kemp, gyda’r Cyng. Geoffrey Cox yn ysgwyddo rôl yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.


Yn dilyn y cyfarfod dywedodd y Cyng. Thomas: "Mae cael fy ethol yn Arweinydd y Cyngor yn anrhydedd mawr. Mae fy nghydweithwyr cabinet a minnau’n benderfynol o gyflawni ar ran pobl Bro Morgannwg. 


“Mae’r cabinet newydd yn dod â phrofiad proffesiynol a gwleidyddol newydd i’r Cyngor a bydd yn cynnig yr arweinyddiaeth sydd ei hangen i lunio gwasanaethau sy’n addas ar gyfer y 21ain ganrif.  


“Yn ogystal â darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel, bydd y Cyngor hwn yn gwneud hynny mewn dull sy'n sicrhau bod pobl leol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. 


“Byddwn yn canolbwyntio ar rwydwaith trafnidiaeth y Fro yn y lle cyntaf. Bydd adolygiad ac arfarniad newydd o seilwaith y sir yn dechrau cyn bo hir, gan roi sylw penodol i Ddwyrain y Fro. Byddwn hefyd yn gweithredu'n gyflym i wella'r ffordd y mae'r Cyngor yn cefnogi ein canol trefi a busnesau lleol. 


“Y tu hwnt i’r Fro, byddaf yn gweithio i sicrhau bod y Cyngor hwn yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o lunio mentrau megis Bargen Ddinesig Caerdydd, er mwyn sicrhau bod yr ardal yn cael y cyllid y mae’n ei haeddu gan Lywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill.” 


Cyhoeddwyd yn yr un cyfarfod mai Maer newydd Bro Morgannwg fydd y Cyng. Janice Charles. Caiff y Cyng. Charles ei chynorthwyo yn ystod ei blwyddyn o wasanaeth gan y Cyng. Leighton Rowlands a fydd yn Ddirprwy Faer.