Cost of Living Support Icon

Clybiau criced yn y Fro yn Cymryd rhan mewn ymgyrch cyfranogi ledled y genedl

 

02 Mai 2017

 

Mae saith clwb criced o bob rhan o Fro Morgannwg ar fin cymryd rhan mewn menter arbennig sydd â’r nod o gynyddu'r niferoedd sy’n cyfranogi mewn criced.

 

Mae clybiau criced Barry Athletic, Barry Wanderers, Y Bont-faen, Dinas Powys, Llanilltud Fawr, Penarth a’r Fro i gyd yn cyfranogi yn y cynllun sy’n gobeithio peri i 50,000 o fechgyn a merched gael eu cyffroi gan y gêm.

 

Boy with cricket batMae hyn yn dod yn sgil Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn lansio ei raglen cyfranogi ledled y genhedlaeth cyntaf ar gyfer criced.

 

Yn dechrau ym mis Mai, bydd All Starts Cricket yn cyflwyno cenhedlaeth o deuluoedd i griced. Caiff y fenter ei chyflwyno mewn clybiau criced a chanolfannau lleol ledled Cymru a Lloegr drwy gydol yr haf, gan roi eu profiad cyntaf o’r gêm i blant rhwng pump ac wyth oed.

 

Gall rhieni gofrestru eu plant ar gyfer y cynllun ar www.allstarscricket.co.uk. Ar ôl cofrestru, bydd bechgyn a merched yn derbyn ‘gwarbac’ criced wedi’i anfon i’w cartref, gyda bat, pêl a phopeth maen nhw ei angen er mwyn rhoi cynnig ar y gêm am y tro cyntaf.

 

Wedyn byddant yn dechrau rhaglen wyth wythnos yn eu canolfan leol sy’n cymryd rhan, a rhoddir y pwyslais yn gadarn ar ddysgu sut i chwarae’r gêm mewn amgylchedd hwyliog, diogel a chynhwysol. Hefyd bydd plant yn dysgu'r sgiliau datblygu cymdeithasol y mae chwaraeon tîm yn eu cyflwyno.

 

Cafodd pob sesiwn ei ddatblygu gyda mewnbwn gan Gyfarwyddwr Criced Lloegr, Sef Andrew Strauss, a thîm perfformiad Lloegr, fel y gall plant ennill y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt er mwyn datblygu cariad at griced drwy gydol eu hoes.

 

“Rydym yn dod â chriced i ddrws ffrynt plant a rhieni ledled Cymru a Lloegr. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar glybiau a'r gêm ehangach," meddai Strauss. 

 

Young batter and wicket keeperYchwanegodd Michael Vaughan, cyn capten Lloegr a llysgennad Criced All Stars: “Dechreuais i chwarae criced yn fy nghlwb lleol ac rwyf wedi gweld yn bersonol pa mor bwysig yw i gyflwyno plant i’n camp mewn ffordd hwyliog.

 

“Fel rhiant, rwyf wedi gweld pa mor anodd y gall fod i gael plant i ymddiddori mewn chwaraeon, yn enwedig o ystyried nifer y gweithgareddau sy’n cystadlu am eu hamser. Mae dod o hyd i ffordd i griced apelio at blant a’u hannog i fod yn weithgar yn bwysicach nag erioed o'r blaen."

 

Gellir dod o hyd i’r manylion ar gyfer y clybiau sy’n cymryd rhan yn y cynllun ar y wefan swyddogol: www.allstarscricket.co.uk. Fel arall, gall Tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor y Fro ddarparu manylion y clybiau perthnasol i chi.

 

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r cyfleoedd o ran gweithgareddau chwaraeon a chorfforol sydd ar gael i blant 5 – 8 oed yn y Fro, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae ar 01446 704793 neu ewch i'r wefan ar www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/sportsandplay