Cost of Living Support Icon

Gallai sefydliadau chwaraeon y Fro fod yn gymwys i gael rhan o’r Gist Gymunedol 


12 Mai 2017

 


Gallai sefydliadau chwaraeon a gweithgareddau corfforol ledled Bro Morgannwg fod yn gymwys i gael cyfanswm o £86,251 o gyllid.

 

Jenner Park girls football eventMae cynllun y Gist Gymunedol yn cael cyllid gan Chwaraeon Cymru ac mae'n cael ei reoli'n lleol gan dîm Chwaraeon a Datblygu Chwarae'r Cyngor. Gall helpu sefydliadau lleol sy’n bwriadu trefnu gweithgareddau newydd, gwella gweithgareddau neu gyfleusterau presennol, neu anfon aelodau ar gyrsiau hyfforddi.

 

Yn ogystal â hynny, mae modd defnyddio’r cyllid i brynu cyfarpar newydd, i logi cyfleusterau yn y lle cyntaf ac i dalu costau hyfforddi ychwanegol.

 

Yn ddiweddar, cafodd pum sefydliad o’r Fro gyfran o £6,945 i ddatblygu gweithgareddau chwaraeon a chwarae newydd ac i hyfforddi hyfforddwyr gan fod addysgu hyfforddwyr yn flaenoriaeth panel y Gist Gymunedol. 

 

Mae’r panel yn penderfynu pwy sy’n cael rhan o’r cyllid, ac mae’n gwobrwyo’r sawl sy’n ceisio annog rhagor o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau chwarae ledled y Fro. Dyrannodd gyllid i Glwb Sglefrio Celfyddydol Morgannwg, Clwb Pêl-droed Athletaidd y Barri, Canolfan Glwstwr Rygbi i Ferched Mariners, Grŵp Sgowtiaid 1st Penmark with Porthkerry a Chlwb Pêl-droed i Ferched Tref y Barri, ar gyfer hyfforddiant penodol i chwaraeon, hyfforddiant cymorth cyntaf a hyfforddiant diogelu.

 

Ni roddir y cyllid i'r sawl sydd am ddatblygu gweithgareddau chwaraeon yn unig, serch hynny: mae sefydliadau eraill sydd wedi llwyddo i gael cyllid y Gist Gymunedol o’r blaen wedi cynnwys grwpiau sgowtiaid lleol, cymdeithasau cymunedol, cymdeithasau tai, sefydliadau anableddau, clybiau ieuenctid, tai preswyl a grwpiau i hen bobl.  

 

Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau'n gymwys i wneud cais cyn belled â bod modd iddynt ddangos eu bod yn datblygu gweithgareddau rheolaidd newydd, a bodloni’r meini prawf.Bydd cyfarfod nesaf panel y Gist Gymunedol ar 22 Mehefin 2017 a rhaid cwblhau a chyflwyno ceisiadau erbyn 8 Mehefin.  Os hoffech drafod project posibl, ffoniwch Karen Davies, Rheolwr Datblygu Chwaraeon a Chwarae ar 01446 704793.