Cost of Living Support Icon

 

Newidiadau i Wasanaethau Cŵn Strae 

Yn anffodus, nid yw Llety Achub Cŵn Croft bellach yn gallu darparu llety i gŵn strae nac yn gallu casglu y tu allan i oriau. 

 

  • Dydd Mercher, 29 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg



Er bod contract gyda darparwr gwasanaeth newydd yn cael ei drefnu, mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi cynnig ei wasanaethau i dderbyn cŵn strae. 

 

Ni ddylai fod unrhyw effaith ar y gwasanaethau yn ystod oriau gwaith a’n Warden Cŵn fydd y pwynt cyswllt cyntaf o hyd.  Y prif wahaniaeth fydd y ffaith y caiff cŵn eu cadw yng Nghartref Cŵn Caerdydd:  

 

Stray-dog

 

 

Cartref Cŵn Caerdydd 

Heol Penarth

Llandochau

Caerdydd

 

Gweld ar Fap

 

  • 029 2071 1243

 

Allan o Oriau

Yn anffodus, nid oes gan Gartref Cŵn Caerdydd wasanaeth casglu y tu allan i oriau, felly, yn gyntaf, dylai aelodau o’r cyhoedd sydd wedi dod o hyd i gi strae: 

 

  • Ofalu am y ci dros nos/penwythnos nes bod Warden Anifeiliaid ar gael i’w gasglu; 

  • Mynd â’r ci i Gartref Cŵn Caerdydd lle y ceir canolfan dderbyn 24 awr y dydd sy'n derbyn cŵn strae. 

 

Fodd bynnag, fel mesur dros dro ar gyfer gweddill yr wythnos hon yn unig, bydd Craft yn casglu y tu allan i oriau. Serch hynny, bydd hyn OND yn digwydd dan yr amgylchiadau canlynol: 

 

 

  • Pan nad yw’r cwsmer yn gyfforddus yn cadw'r ci dros nos, ac nid yw’n gallu mynd ag ef i Gartref Cŵn Caerdydd; 

  • Os yw'r ci’n ymddwyn mewn modd ymosodol sy'n gwneud i'r cwsmer deimlo'n anghyfforddus/ar bigau'r drain ynghylch cadw'r ci dros nos neu ei gludo i Gartref Cŵn Caerdydd.  

 

   

 

  

 

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, y Gwasanaethau Cŵn a’r Warden Anifeiliaid, ewch i wefan GRhR Cymru:

 

 

Wardeiniaid Cŵn ac Anifeiliaid