Cost of Living Support Icon

 

Nod Cyngor Bro Morgannwg yw cyrraedd pob plentyn ar draws y sir drwy Apêl nadolig 2017 

 

Mae digwyddiad Big Wrap 2017 yn gweithio gyda Chyngor y Fro i roi anrhegion i blant a phobl ifanc difreintiedig sydd mewn perygl o dderbyn dim byd neu ychydig iawn y Nadolig hwn.

 

 

  • Dydd Iau, 02 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg



Y llynedd, rhoddwyd mwy na 1,000 o anrhegion i 350 o blant yn byw ar draws y sir ac mae’r tîm yn gobeithio helpu mwy yn 2017.  

 

Mae Tîm Buddsoddi Cyngor Bro Morgannwg yn un o’r nifer o bartneriaid sy'n cefnogi apêl eleni.  Mae'r Big Wrap, a gynhelir gan wirfoddolwyr, yn llwyr ddibynnu ar roddion gan sefydliadau lleol ac aelodau o’r cyhoedd.  

 

Mae’r Big Wrap yn hapus i dderbyn teganau (a ddylai fod yn newydd a heb eu lapio) a thocynnau rhodd neu roddion ariannol.  Mae rhestr ddymuniadau yn cynnwys gemau bwrdd, setiau dol, setiau trên a setiau ymolchi ar gyfer bechgyn yn eu harddegau.  

 

“Rydym yn hynod ddiolchgar i aelodau’r cyhoedd am eu cymorth hael.  Rhoddir pob anrheg a dderbyniwn i blentyn neu unigolyn ifanc na fyddai fel arall efallai’n derbyn rhyw lawer, os o gwbl, ar gyfer y Nadolig.”

- Susan Lloyd-Selby, cydlynydd y Big Wrap. 

 

Christmas Tree

 

Mae’r Big Wrap yn gofyn i bobl, os gallant neilltuo’r arian, i ychwanegu anrheg arall i’w basged wrth wneud eu siopa Nadolig blynyddol.  

 

 

Gellir mynd â rhoddion i Swyddfeydd Dinesig Bro Morgannwg ar Heol Holltwn, y Barri rhwng nawr a dydd Gwener 15 Rhagfyr.

 

 

 

Gellir gwneud sieciau’n daladwy i ‘the Big Wrap’, a’u hanfon i Eglwys Coastland, Tennyson Road, Colcot, y Barri, CF62 9TN.