Cost of Living Support Icon

 

Dadorchuddio y cofeb Milwr Mud cyntaf ym Mro Morgannwg

Mae maer Bro Morgannwg, y Cyng. Janice Charles a chynrychiolwyr o HMS Cambria wedi dadorchuddio y cofeb Milwr Mud cyntaf yn y sir.

  • Dydd Llun, 16 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



Wedi ei godi ger cofeb y Llynges Fasnachol y tu allan i Swyddfeydd Dinesig y Barri, mae’r Milwr Mud ar ffurf cysgod, bron o faint llawn, o filwr y rheng flaen yn y Rhyfel Byd Cyntaf.


Cyflwynodd y Maer y cerflun i’r "rhai o’r sir a fu’n ymladd yn y lluoedd arfog a phawb yr effeithiodd y rhyfel arnynt”.

 

Cllr Charles and HMS Cambria reps with Silent Soldier

“Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn rhyfel a effeithiodd ar filiynau ac mewn amryw ffordd mae wedi siapio ein dealltwriaeth o’r aberth y mae pob un sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ei gwneud.” 


 “Y flwyddyn nesaf bydd canrif ers diwedd y rhyfel ac roeddwn i’n falch o gael ymuno ag aelodau o Adfyddin yr HMS Cambria i gyflwyno Milwr Mud cyntaf y Fro. 


 “Bydd y Milwr Mud i’w weld y tu allan i’r Swyddfeydd Dinesig tan ddiwedd 2018 ac rwy’n gobeithio y bydd yn peri i staff ac ymwelwyr oedi a meddwl. 


“Fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Bro Morgannwg, rwy’n falch o ddatgan y bydd y Cyngor yn gweithio gyda’r Lleng Brydeinig ac yn cynnig safleoedd mewn llawer o’n mannau agored lle gellir gosod cofebau Milwr Mud eraill.”

 

 - Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Janice Charles

Ymunodd cynrychiolwyr o Uned Adfyddin y Llynges Forwrol Frenhinol HMS Cambria yn y Barri â’r Cyng. Charles. 

 

Cllr Charles and AB Chambers with Silent Soldier

Cyflwyno’r Milwr Mud oedd yn un o blith amryw o bethau y bydd yr uned yn rhan ohonynt yn nigwyddiadau coffáu eleni; bydd y morwyr a oedd yn rhan o'r seremoni ddadorchuddio hefyd yn rhan o’r gwarchodlu ar yr orymdaith goffa y mis nesaf. 


Gweinyddir ymgyrch y Milwr Mud gan y Lleng Frenhinol Brydeinig, sy’n gwahodd busnesau ac unigolion i noddi’r cerfluniau trwy’r Fro.

 

Ceir rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ar lein yn www.britishlegion.org.uk 


Am ragor o wybodaeth am leoliadau'r Cyngor lle gellir gosod Milwyr Mud ac am y broses o wneud cais, dylai preswylwyr gysylltu â thîm y parciau ar 01446 709371.