Cost of Living Support Icon

 

Gwaith ar lôn bum milltir newydd yn mynd yn ei flaen

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno ar y gontractwr llwyddiannus ar gyfer gwelliannau i ffordd yr A4226, y mae pobl yn ei hadnabod yn lleol fel y lôn bum milltir.

 

  • Dydd Mercher, 11 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



Mae Alun Griffiths (Contractors) Ltd i gael ei benodi ar gontract ffurfiol yn dilyn cymeradwyo adroddiad i gabinet y Cyngor ar ddydd Llun 9 Hydref.

 

Bydd y contractwr yn cael ei benodi ar gontract dylunio ac adeiladu a disgwylir y bydd yn treulio’r chwe mis cyntaf yn gwneud gwaith dylunio manwl.

 

 

 

“Oherwydd bod y cynllun hwn yn aruthrol o bwysig, a’r gyllideb o £25.8 miliwm yn un sylweddol iawn, mae tîm project, wedi ei arwain gan swyddogion o'r cyngor, wedi goruchwylio proses dendro drwyadl a manwl iawn.  Wedi adolygu pob agwedd ar y broses, rwyf yn hollol fodlon ein bod wedi sicrhau'r ddêl orau i breswylwyr Bro Morgannwg.

 

"Y cam nesaf yw cwblhau’r trefniadau cytundebol ffurfiol a gobeithiaf y bydd gwaith yn cychwyn ar yr heol newydd yn gynnar yn 2018."

 - Cyng John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg.

  

 The Vale of Glamorgan Council has agreed its successful bidder to undertake construction of the improved A4226

 

Dechreuodd y broses dendro yn Ebrill 2017 ac fe’i gwnaed drwy wefan Gwerthwch i Gymru Llywodraeth Cymru.

 

Cynhaliwyd sesiynau clinig gyda darpar gontractwyr ym Mehefin, cyn y dyddiad cau ar gyfer cynigion ddiwedd Gorffennaf.

 

Gwerthuswyd saith cais wedyn, ar sail 50% pris a %0% ansawdd, gan arbenigwyr annibynnol a gynhyrchodd adroddiad asesu cyfrinachol tendrau a ystyriwyd gan gabinet y Cyngor mewn cyfarfod ar 9 Hydref.