Cost of Living Support Icon

 

Stoker yn hedfan i Gymru

I ddathlu 170 mlynedd ers geni’r awdur Bram Stoker, bydd Wŷr ei Nai, Dacre C. Stoker, yn hedfan i Gymru am y tro cyntaf. 

 

  • Dydd Mercher, 18 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



Bydd Dacre C. Stoker yn ymweld â’r Oriel Gelf Ganolog ddydd Mercher 8 Tachwedd i ddathlu diwedd Dengmlwyddiant yr Oriel a Llyfrgell Sirol y Barri.

 

Ym mherfformiad aml-gyfrwng Dacre Stoker caiff y gynulleidfa eu tywys ar daith hudol y maent yn sicr o’i mwynhau.

 

Mae “Stoker on Stoker, the Mysteries Behind the Writing of Dracula” yn plethu hanes Dracula ynghyd â chwedlau’r teulu Stoker. Mae’n adrodd hanes bywyd Bram Stoker, yn gwahanu’r ffeithiau a’r ffuglen, gan ddadlennu’r gwirionedd am bopeth sydd i’w wybod am Stoker a Dracula.

 Dacre Stoker Bats & Tree Image 4 jpg

 

 

Mae “Stoker on Stoker” yn edrych ar y dirgelion sydd wedi drysu ysgolheigion ac edmygwyr Dracula ers i’r llyfr gael ei gyhoeddi gyntaf yn 1897.

 

Os ydych yn hoff iawn o Dracula, dewch i’r oriel i fwynhau noson fydd yn sicr yn un gyffrous a chyfareddol.  

 

“Mae yna Ddirgelion y gall dyn ond ddyfalu amdanynt, ac o oes i oes, y gellir eu datrys ond yn rhannol.” - Bram Stoker. Dracula (1897) 

 

Ym myd llenyddiaeth, ychydig o nofelau sydd wedi goroesi mor effeithiol â champwaith Bram Stoker o 1897, Dracula.

 

Gwybodaeth am Bram Stoker

Ganed Bram Stoker ar 8 Tachwedd 1847 yn Clontarf, Dulyn ac fe’i haddysgwyd yng Ngholeg y Drindod o 1864 i 1870. Oherwydd ei gariad at y theatr, daeth yn feirniad drama di-dâl i’r Dublin Evening Mail, oedd yn eiddo’n rhannol i’r awdur gothig, Sheridan Le Fanu.

 

Ym 1878 priododd â Florence Balcombe, cyn-gariad i Oscar Wilde, yn  Eglwys y Santes Ann yn Dawson Street. Dechreuodd ysgrifennu nofelau tra yn Llundain – yr enwocaf ohonynt yw Dracula a gyhoeddwyd ym 1897. Y ffaith bod y nofel mor bwysig yn fyd-eang yw un o’r rhesymau pam fod Dulyn yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol gan UNESCO fel Dinas Llenyddiaeth.

 

Gwybodaeth am Dacre Stoker

Yn wreiddiol o Montreal, Canada, dysgodd Dacre Addysg Gorfforol a Gwyddoniaeth am ddwy flynedd ar hugain, yng Nghanada a’r Unol Daleithiau.  Mae wedi cynrychioli Canada yn y Pentathlon Cyfoes, fel athletwr ac fel hyfforddwr ar lefel ryngwladol ac yn y Gemau Olympaidd dros gyfnod o 12 mlynedd.  Bu’n hyfforddi Camden Riviere o’r Unol Daleithiau mewn Tennis Byw i lefel Pencampwriaeth Byd yn ddiweddar.  

 

Roedd Dacre yn gyd-awdur y llyfr llwyddiannus 'Dracula the Un-Dead' (dilyniant i Dracula, gyda sêl bendith y teulu Stoker) a chyd-olygydd (gydag Elizabeth Miller) 'The Lost Journal of Bram Stoker: The Dublin Years'.

 

Mae Stoker yn arwain teithiau i Transylvania i olrhain bywyd Vlad Dracula III, ac i ymweld â’r lleoliadau a ddefnyddiodd Bram Stoker ar gyfer ei nofel enwog. 

 

Mae Dacre Stoker wedi ymddangos mewn rhaglenni dogfen fel ymgynghorydd ar fampirod mewn llenyddiaeth a diwylliant poblogaidd.  Rydym wrth ein bodd i groesawu Dacre yma yn enwedig o gofio’r cyhoeddiad bod Paramount wedi ennill yr hawliau, gyda chytundeb ystâd Teulu Stoker, i wneud ffilm newydd ar sail llyfr sydd ar fin cael ei gyhoeddi ganddo ef a JD Barker.  

 

I archebu lle 

I archebu lle ar y digwyddiad yma, danfonwch ebost i:

  • artinthevale@valeofglamorgan.gov.uk

 

 Am fwy o wybodaeth ewch i:

 

www.bramstokerestate.com    Paramount Bites Into ‘Dracul’   Dacre Stoker: My life with Count Dracula