Cost of Living Support Icon

 

Diweddariad ar Safle Biomas

Ymhellach at yr Hysbysiadau Deddf Rheoli Llygredd a gyflwynwyd ar 28 Medi yn cyfyngu oriau gwaith swnllyd ar y safle, cred y Cyngor fod angen cynnig eglurhad.  

 

  • Dydd Iau, 12 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



Caniateir gwaith ar y safle biomas y tu allan i’r oriau cyfyngedig, ar yr amod nad yw’r sŵn yn aflonyddu trigolion yn eu heiddo.

 

O 22:00 dydd Sadwrn 7 Hydref tan 06:00 dydd Gwener 13 Hydref, mae Network Rail wedi bod yn gwneud Gwaith Gwella Traciau yn ardal y Barri, felly gallai’r sŵn a glywid yn ystod yr adeg hon fod o’r trac rheilffordd.

 

Gofynna’r Cyngor i drigolion sy’n dal i gael eu haflonyddu gan y sŵn neu’r golau yn eu heiddo yn y nos ffonio: 

 

  • 0300 123 6696