Cost of Living Support Icon

 

Etholiadau Maer Ieuenctid 2017 

Mae tri aelod o Gabinet Ieuenctid y Fro yn sefyll yn Etholiadau Maer Ieuenctid 2017.

 

 

  • Dydd Mawrth, 10 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



Mae’r etholiadau yn cael eu cynnal o Ddydd Llun 9 Hydref tan Ddydd Gwener 13 Hydref yn ystod Wythnos Democratiaeth Leol.

The three members standing for this year’s election are; Daley Chapman, Ushenka Rajapakse and Niclas Want

 

Golyga hyn y bydd pobl ifanc ledled y Fro yn cael y cyfle i bleidleisio dros eu pedwerydd Maer Ieuenctid. 

 

Y tri aelod sydd yn sefyll yn yr etholiad eleni yw; Daley Chapman, 16 oed o Ysgol Uwchradd y Barri, 

Ushenka Rajapakse, 15 oed o Ysgol Gyfun y Bont-faen, a Niclas Want, 18 oed o Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. 

 

Nod yr etholiad yw sicrhau bod pobl ifanc yn fwy ymwybodol o’u cyngor lleol a’u hannog i ddweud eu dweud am eu cymunedau lleol. 

 

 

 

Mae pleidleisio dros Faer Ieuenctid a fydd yn llais i bobl ifanc yn un ffordd o gyflawni hyn.    

 

 

Mae pobl ifanc 11-25 oed yn gymwys i bleidleisio a chynhelir y bleidlais ledled y Fro drwy’r wythnos mewn ysgolion, clybiau ieuenctid a sefydliadau ieuenctid. 

 

 

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Ieuenctid y Fro ar 02920 701254 neu e-bostiwch thepoint@valeofglamorgan.gov.uk