Gŵyl crefftau ar yr arfordir yn dychwelyd i Fae Dwnrhefn am yr ail flwyddyn
Bydd mwy na 30 stondin yng Ngŵyl Crefftau ar yr Arfordir, a gefnogir gan Gyngor Bro Morgannwg, y penwythnos nesaf.
Bydd y Celfyddydau Cymunedol Arfordirol, grŵp o bedwar artist ac athro a leolir yn Aberogwr, yn cynnal y digwyddiad ym Mae Dwnrhefn yn Southerndown rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn 9 Medi.
Ar ôl yr ŵyl gyntaf y llynedd, mae’r digwyddiad hwn yn siŵr o fod yn fwy ac yn well, gyda stondinau yn gwerthu pethau fel gwydr lliw, paentiadau sialc a thecstilau.
Hefyd bydd arddangosiadau crefft, sesiynau adrodd straeon, adloniant cerdd a choffi a gwneud cacennau.
Caiff gweithdai Crefftau â Ffocws eu cynnal yn ystod yr wythnosau cyn ac ar ôl yr ŵyl, yn cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau mewn maes penodol.
Mae’r ŵyl wedi derbyn arian gan Gynllun Digwyddiadau Cyngor y Fro, wedi'i sefydlu i helpu digwyddiadau newydd ac arloesol i ddod yn sefydlog ac i dyfu.
Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu sefydlu rhwydwaith crefft yn y Fro, gan gynnig y cyfle i arlunwyr ddod o hyd i weithleoedd, cyfleoedd i arddangos a gwerthu eu gwaith, cymorth marchnata a chymorth busnes.
Mae’r Oriel Gelf Ganolog, yr oriel y mae’r Cyngor yn ei chynnal, hefyd yn rhoi cymorth sy’n cynnig cyfle i arlunwyr lleol arddangos eu gwaith.
“Rydyn ni’n falch o gefnogi’r digwyddiad hwn sy’n helpu i arddangos y bywyd creadigol ffyniannus sydd gennym yn y Fro.
“Rydyn ni, y Cyngor, yn awyddus i roi cymorth i fentrau ym maes y celfyddydau oherwydd rydyn ni'n gwerthfawrogi eu rôl hollbwysig yn y gymuned. Mae modd i brosiectau arloesol fel Gŵyl Crefftau’r Arfordir greu buddion cymdeithasol ac economaidd i'r Fro.”- Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor y Fro dros Ddysgu a Diwylliant.
Mae trefnwyr y digwyddiad yn gweithredu Crafts by the Sea, siop yn Ogwr a agorodd dair blynedd yn ôl ac sy'n gwerthu gwaith gan ystod o artistiaid lleol.
I gadw eich lle mewn gweithdy neu i ddysgu mwy am y digwyddiad hwn a Chelfyddydau Cymunedol Arfordirol ewch i www.coastalcommunityarts.co.uk, e-bostiwch coastalcommunityarts@gmail.com neu ffoniwch 07590 834993.