Cost of Living Support Icon

 

Gweledigaeth newydd ar gyfer safle Marchnad Da Byw’r Bont-faen

Mae Bwrdd Prosiect newydd a sefydlwyd gan Gyngor Bro Morgannwg wedi gosod gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer safle Marchnad Da Byw’r Bont-faen; ardal o’r dref y mae angen ei hadfywio’n sylweddol.

 

  • Dydd Gwener, 15 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Mae’r bwrdd newydd, a sefydlwyd yn dilyn yr etholiadau lleol eleni, o’r farn bod potensial enfawr i'r safle oherwydd ei leoliad yng nghanol y dref wrth galon Ardal Gadwraeth y Bont-faen a ger wal hanesyddol y dref.

 

 

 

Am y rheswm hwn mae’n cynnig, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, ariannu gwaith ailddatblygu uchelgeisiol a fydd yn hybu canol y dref ac yn creu mwy o lefydd parcio i’r cyhoedd.

 

Cowbridge market

 

Yn rhan o’r cynigion newydd, byddai’r Farchnad Da Byw bresennol yn cael ei symud i gyrion y Bont-faen, byddai Menter Gymunedol Marchnad y Fro (VMCE) yn sefydlu eu hadeilad Cyfnewidfa arfaethedig ar dir y Cyngor ochr yn ochr â wal y dref, a byddai gwelliannau'n cael eu gwneud o ran llefydd parcio cyhoeddus ar hyd wal y dref ac yn y prif safle da byw.

 


Byddai safle presennol y farchnad wedyn yn cael ei farchnata gan y Cyngor fel cyfle ar gyfer datblygiad cynaliadwy o ansawdd uchel, gan gynnwys mwy o lefydd parcio i’r dref.

 


Byddai cyfle hefyd i Ymddiriedolaeth y Siarter, yn amodol ar gyllid, ymarferoldeb a chaniatâd statudol, gyflawni eu huchelgais o adfer wal y dref ymhellach.

 

“Fel Bwrdd newydd rydym wedi edrych ar y prosiect o safbwynt newydd ac rydym o’r farn y byddai adfywio'r safle hwn yn rhoi hwb i ganol y dref, yn creu llefydd parcio ychwanegol ac yn rhoi cyfle i VMCE ddarparu'r Gyfnewidfa ac i Ymddiriedolaeth y Siarter barhau i adfer waliau hanesyddol y dref.

 


“Mae cyfarfodydd adeiladol wedi’u cynnal rhwng y bwrdd, gweithredwr y farchnad, Glam Marts, a VMCE ac mae’r bwrdd eisoes yn gweithio gyda Glam Marts i ddod o hyd i leoliad gwahanol lle byddai marchnad da byw yn cael ei sefydlu fel rhan o 'hyb amaethyddol' cyffrous newydd ar gyfer yr ardal leol.

 


“Rydyn ni’n gwybod bod yr hyn rydyn ni’n ei gynnig yn gam sylweddol o’r hyn a ystyriwyd yn y gorffennol. Bydd hon yn broses gyffrous gyda llawer o ffactorau i’w hystyried. Byddai angen i unr

hyw ddatblygiad newydd cael ei ddylunio’n sympathetig i barchu'r cyd-destun hanesyddol a’r Ardal Gadwraeth. Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o weld hyn yn llwyddo ac i wneud canol tref y Bont-faen yn fwy llewyrch

us nag erioed.” - Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg

Cowbridge market 1

Mae’r VMCE wedi cytuno bod potensial enfawr i’r awgrymiadau a wnaed o ran dyfodol y farchnad da byw, creu adeilad ‘Cyfnewidfa’ gymunedol a chynyddu nifer y llefydd parcio. 

 

“Mae’r VMCE bob amser wedi credu y byddai mynd i’r afael â safle'r farchnad da byw mewn modd cadarnhaol yn creu tref lewyrchus, iachus a chynaliadwy i’r Fro, gan gefnogi masnachwyr a’r gymuned fel ei gilydd, ac rydym wrth ein bodd ag agwedd bwrdd newydd y prosiect.”

 

Mandy Davies, cadeirydd VMCE

 

Bydd adroddiad ar ddyfodol safle’r Farchnad Da Byw yn cael ei ystyried gan y Cabinet cyn diwedd y flwyddyn.