Cost of Living Support Icon

 

Lansio ymgyrch perchentyaeth cost isel ym Mro Morgannwg

Mae Cyngor Bro Morgannwg a phedair o gymdeithasau tai lleol wedi lansio ymgyrch i hybu’r opsiynau perchentyaeth cost isel sydd ar gael i helpu prynwyr am y tro cyntaf i gamu ar yr ysgol dai.

 

  • Dydd Mawrth, 12 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



Aspire2Own Facebook

Crëwyd Aspire2Own gan Gyngor Bro Morgannwg a’i bartneriaid mewn cydnabyddiaeth bod prynwyr am y tro cyntaf yn aml yn ei chael yn anodd i gymryd y cam cyntaf ar yr ysgol dai.

 

Gyda chynllun rhannu ecwiti Aspire2Own, gall prynwyr am y tro cyntaf brynu cartref newydd am lai na gwerth y farchnad – ac o ganlyniad does dim angen iddyn nhw godi morgais na blaendal mor sylweddol.

 

Mae’r prynwr yn berchen ar y cartref newydd yn llwyr ac wrth i werth y cartref godi, felly hefyd mae gwerth eu rhan nhw yn yr eiddo yn codi.

 

Yn ddiweddar prynodd Danielle Lewis, 32 oed, ei chartref cyntaf yn Picca Close yn St. Lythan’s Park gyda chymdeithas tai United Welsh mewn partneriaeth â’r cyngor drwy’r cynllun Aspire2Own.  

 “Mae Aspire2Own wedi fy ngalluogi i gamu ar yr ysgol dai o’r diwedd – rhywbeth roeddwn i’n breuddwydio amdano ers amser. Nawr fe alla i ennill annibyniaeth a symud allan o dŷ fy rhieni, ac maen nhw'r un mor hapus â fi am hyn! Roedd pawb yn barod iawn i helpu drwy gydol y broses a gan mai hwn oedd y tro cyntaf i fi brynu tŷ roedd pethau’n teimlo’n her weithiau felly roeddwn i’n wir gwerthfawrogi’r holl wybodaeth a dderbyniais.Mi fyddwn i’n argymell y cynllun yma i unrhyw brynwr am y tro cyntaf sydd eisiau bod yn berchen ar gartref eu hun. Gyda phrisiau rhent yn codi drwy’r amser, mae hwn yn gyfle gwych i fod yn berchen ar eiddo eich hun.” - Danielle Lewis

Bydd yr ymgyrch Aspire2Own yn cynnwys hysbysebion ar Bro Radio a’r cyfryngau lleol, yn ogystal â hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

There are no images in the search content table for folder: 23556

 

 “Mae prisiau tai wedi codi’r tu hwnt i gyrraedd nifer fawr o bobl a hoffai brynu cartref am y tro cyntaf felly mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch iawn o fedru helpu darparu’r cynllun hwn gyda’n partneriaid i helpu mwy o bobl i gamu ar yr ysgol dai. Mae prynu eiddo ar sail rhannu ecwiti yn gwneud hyn yn fwy fforddiadwy, tra bo’r cynllun hwn yn caniatáu’r rheiny sy’n cymryd rhan i ddod yn berchen yn llwyr ar eu cartref yn y pen draw heb dalu unrhyw rent na llog ar y rhan nad ydynt yn berchen arni yn y cyfamser.”  - Cynghorydd Andrew Parker, Aelod o Gabinet Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer Tai a Gwasanaethau Adeiladu

Y llynedd, arwyddodd United Welsh, Hafod, Newydd, a Wales and West gytundeb partneriaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg i ddarparu mwy o dai fforddiadwy ar gyfer yr ardal ac i sicrhau bod y broses mor effeithiol â phosib.

 

 

Aspire2Own

 

 

Gov Delivery logo

Diweddariadau drwy e-bost

Please enter your email address

 

 

Am fwy o wybodaeth am Aspire2Own ac i ymuno â’r gofrestr, cysylltwch â’r tîm gan ddyfynnu ‘Aspire2Own’: