Cost of Living Support Icon

 

Anrhydeddu Aelodau o’r Llynges Fasnachol â seremoni gan Gyngor Bro Morgannwg  

Ddydd Gwener 1 Medi, talwyd gwrogaeth i aelodau o’r Llynges Fasnachol bresennol a’r Llynges Fasnach flaenorol gan dorf o gynrychiolwyr y cyngor ac aelodau’r cyhoedd.

 

  • Dydd Mercher, 06 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg


 

 

 

Y Parch Chris Seaton fu’n arwain y gwasanaeth, ac wrth ei ochr roedd y Parch Mike Holmes.

Vale of Glamorgan Council leader John Thomas, with MD Rob Thomas, at the memorial

 

Yn ymuno â nhw roedd Colin Jones – Dirprwy Arglwydd Raglaw EM, Jo Norton – cynrychiolydd y Llynges Fasnachol, Maer Bro Morgannwg - y Cyng Janice Charles, Arweinydd y Cyngor - y Cyng John Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr Rob Thomas a’r gwir anrhydeddus Alun Cairns AS, a gymerodd ran yn y seremoni ffurfiol cyn gosod y torchau ar y Gofeb.

 

Dilynwyd y Last Post gan Weddi'r Llynges a ddarllenwyd gan Ross Cleland MN, cyn i’r seremoni orffen gydag anthemau Cymru a Lloegr.  

 

 

“Gyda’n gilydd fe ymgasglwn i gofio Diwrnod y Llynges Fasnachol, i dalu gwrogaeth i’r holl Forwyr a hwyliodd o’r Ynysoedd hyn.

 

 

"I’r lliaws a aberthodd eu bywydau ar Gonfois yr Iwerydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, i'r rhai hynny a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac i'r rhai hynny mewn rhyfeloedd mwy diweddar sydd wedi rhoi’r aberth eithaf er mwyn gwasanaethu eu gwlad.” - Cyng Janice Charles, Maer Bro Morgannwg.

 

 

Crëwyd Cofeb y Llynges Fasnachol yn y Barri ym 1996 er mwyn coffáu morwyr masnachol y Barri a Bro Morgannwg a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.

 

Mae’r Gofeb Angor ar lan yr hen ddoc yn deyrnged i’r holl Forwyr, yr hwyliodd lawer ohonynt o’r porthladd heb ddychwelyd. Roedd teyrnged y Llynges Fasnachol yn deyrnged i'r holl bobl hynny na ddychwelodd.

 

Councillors, Jane Hutt AM, Alun Cairns MP and others

 

“Mae gwasanaeth Diwrnod y Llynges Fasnachol yn fodd i ni ddiolch a gwerthfawrogi yr aberth a wnaed gan forwyr y Llynges Fasnach ledled Bro Morgannwg.”

 

“Mae’n gyfle i dalu gwrogaeth i bawb a roes eu bywydau yn y ddau ryfel byd. Mae’r rhan a chwaraewyd gan y Llynges Fasnachol ac sy’n cael ei chwarae hyd heddiw yn aml yn cael ei anghofio ond mae’r gwasanaeth hwn yn cadw’r cyfraniad hwnnw yn ein meddyliau.” - Arweinydd y Cyngor, y Cyng John Thomas.