Cost of Living Support Icon

 

Trigolion yn cael eu hannog i ymateb i ffurflenni’r gofrestr etholiadol am nad yw dros 14000 o dai ledled y Fro wedi ymateb 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn atgoffa pobl ledled y cyfrif i gadarnhau a diweddaru gwybodaeth sy’n ymddangos ar y gofrestr etholiadol ar gyfer eu cyfeiriad.

 

 

  • Dydd Llun, 25 Mis Medi 2017

    Bro Morgannwg



 

Bydd y tîm cofrestru etholiadol yng Nghyngor Bro Morgannwg yn curo drysau ar ôl i fwy na 14,000 o eiddo fethu ag ymateb i’r ffurflenni a gafodd eu hanfon yn gynharach eleni. 

 

Bydd y tîm yn dechrau galw heibio i gartrefi ledled y Fro o ddydd Sadwrn 30 Medi yn sgil diffyg ymatebion, ond, os na fydd aelodau o’r cyhoedd am i’r tîm alw, maen nhw’n cael eu cynghori i ymateb i'r Ffurflenni Ymholiadau Aelwydydd drwy eu hanfon yn y post neu drwy ymateb ar-lein yn https://www.hef-response.co.uk/cy-GB

 

 

"Mae’n bwysig iawn bod trigolion yn ymateb cyn gynted â phosibl, fel y gallwn ni sicrhau bod gennym y manylion cywir ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad ym Mro Morgannwg. I sicrhau eich bod yn gallu dweud eich dweud yn yr etholiadau y flwyddyn nesaf, y cyfan mae angen ei wneud yw gwirio'r ffurflen pan ddaw hi ac ymateb cyn gynted â phosibl."

 

 

"Os nad ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos ar y ffurflen. Ond os hoffech chi gofrestru, y ffordd hawsaf o wneud felly yw trwy fynd i www.gov.uk/register-to-vote, neu byddwn ni’n anfon y wybodaeth sy’n esbonio sut mae gwneud hyn i chi yn y post. Pa un bynnag, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom o hyd.”

- Debbie Marles, Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghyngor Bro Morgannwg.

 

 

Infographic-renters-vs-homeowners-Welsh

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. 

 

 


Bwriad y ffurflen yw sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn gyfredol ac i nodi unrhyw drigolion nad ydynt wedi'u cofrestru. 

Gofynnir i bobl ddychwelyd y ffurflen cyn gynted â phosibl. 

 

  

 

 

 

Beth yw manteision bod ar y Gofrestr Etholiadol? 

 

  1. Cewch ddewis a hoffech chi bleidleisio mewn etholiad neu refferendwm y DU. 
  2. Gall asiantaethau gwirio credyd gadarnhau eich cyfeiriad i gymeradwyo ceisiadau am forgais, benthyciad neu gredyd.
  3. Mae'n bosibl y gelwir arnoch i gymryd rhan mewn Gwasanaeth Rheithgor.

 

 

Am fwy o wybodaeth, ewch i gov.uk/register-to-vote neu gallwch danysgrifio i fod ar Gylchlythyr y Gofrestr.

 

Gallwch hefyd gael y diweddaraf ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol @ElectoralCommUK a @YourVote_UK