Cymorth gan Gyngor Bro Morgannwg i gynnal rhan o Ras Cyfnewid Baton y Frenhines Gemau’r Gymanwlad
Y PENCAMPWR PAFFIO Lee Selby a disgyblion o dair ysgol leol oedd ar Bromenâd Ynys y Barri wrth i Gyngor Bro Morgannwg helpu i drefnu rhan o Ras Cyfnewid Baton y Frenhines yr wythnos hon.
Yn rhan o’r digwyddiad, mae baton â neges gan y Frenhines yn dilyn taith o amgylch y cenhedloedd sy’n cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad cyn cyrraedd y Traeth Aur, lleoliad y Gemau yn 2018.
Ar ôl cychwyn y daith yn Buckingham Palace, bu’r ras gyfnewid yn Affrica, y Caribî a chyfandiroedd America cyn troi ei golygon yn ôl at Ewrop.
Ac roedd Ynys y Barri yn un o’r lleoliadau a ddewiswyd i ymweld ag o yn ystod taith o bedwar diwrnod o amgylch Cymru.
Daeth llu o ddisgyblion Ysgol Gynradd y Stryd Fawr, Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Gynradd Bro Morgannwg i’r Ynys i weld y digwyddiad, yn ogystal ag arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, John Thomas.
Cafodd y plant gyfle i afael yn y Baton, sydd wedi’i wneud o bren macadamia a hen blastig o ddyfrffyrdd y Traeth Aur, a gwylio wrth i’r llanc lleol
Selby ac eraill gymryd rhan yn yr orchwyl o’i gludo ar hyd y Promenâd.
Hefyd yn bresennol oedd Gavin Chesterfield, rheolwr Barry Town United, Hannah Mills, enillydd medal arian yng Ngemau Olympaidd 2012, Lucy Owen, un o sêr y byd teledu, a John Nethercott, un o weithwyr Cyngor Bro Morgannwg a enillodd fedalau aur ac efyd
d yn y ras 1500m a 800m yn y Gemau Paralympaidd yn Barcelona yn 1992.
Ar ôl ei daith o amgylch Cymru, bydd y baton yn teithio i Asia ac Ynysoedd y De cyn cyrraedd Queensland ar ddechrau Gemau’r Gymanwlad ym mis Ebrill.
“Roedd yn wych gweld bod Ras Cyfnewid Baton y Frenhines wedi ymweld â'r Fro ar ei thaith o amg
ylch Cymru’r wythnos hon. Mae’r ffaith bod digwyddiad mor fawreddog â hwn wedi cynnwys y Barri yn dangos pa mor eico
nig ydy'r dref glan môr, nid yn unig yng Nghymru, ond yn rhyngwladol.
“ Fel Cyngor rydym yn falch iawn mai dyma’r achos gan ein bod wedi buddsoddi adnoddau sylweddol yn y gwaith o adfywio Ynys y Barri yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae digwyddiadau fel y Ras Gyfnewid yn profi bod cael tref glan môt o safon mor uchel â hon yn y Fro yn fanteisiol dros ben.” - Cyng. Thomas