Cost of Living Support Icon

 

Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg yn annerch y Brecwast Busnes yn Sioe’r Fro

Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cyng John Thomas yn annerch torf lawn ym Mhabell Theatr Cyllid Busnes yr awdurdod lleol ar gyfer Busnes Brecwast yn Sioe’r Fro yr wythnos diwethaf.

 

  • Dydd Iau, 16 Mis Awst 2018

    Bro Morgannwg



Gwnaed y dydd yn bosibl trwy gyfrwng cymorth ariannol gan y Cyngor, Busnes Cymru, Purple Shoots, UnLtd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Llywodraeth Cymru. 


vale3Noddwyd a chynhaliwyd y Busnes Brecwast gan Fanc Datblygu Cymru, a mynychodd dros 100 o bobl.

 

Roedd y digwyddiad yn cynnwys panel o siaradwyr gan gynnwys Chris Griffiths o Tec Marina, y datblygwr eiddo Simon Baston a Victoria Mann o Near Me Now a drafododd yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu busnesau sy’n tyfu. 


Roedd cymorth a chyngor ar gael gan yr asiantaethau ar sut i wneud busnesau yn gynaliadwy, tra bod arweiniad hefyd i fentrau cymunedol.


Roedd amrywiol sesiynau rhwydweithio hefyd yn rhoi’r cyfle i archwilio posibiliadau buddsoddi a chydweithio.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cyng. John Thomas: “Cyflenwyd y brecwast gan Deli Cobbles yn Aberogwr, sydd ond yn un enghraifft o’r busnesau sydd yn ffynnu yn dilyn cefnogaeth gan y cynllun bwrsari.


“Mae tîm Datblygu Economaidd y Cyngor yn gweithio’n agos gyda Busnes Cymru a phartneriaid eraill i ddarparu’r pecyn cymorth gorau posib, gan ganolbwyntio ar gefnogi’r sector busnesau newydd a mentrau cymdeithasol.

 

vale1

“Bydd llai o gyllid a llai o grantiau ar gyfer gwasanaethau cymorth busnes ar ôl Brexit felly mae’n hanfodol ein bod ni gyd yn gweithio'n agos i oresgyn yr heriau hyn


“Mae ein tîm Datblygu Gwledig, Cymunedau Gwledig Creadigol, ar hyn o bryd yn treialu projectau yn ymwneud â defnydd masnachol ar adeiladau segur a gofod cydweithio newydd. Gallai projectau fel hyn alluogi ardaloedd gwledig i wneud y gorau o fuddion y fargen Ddinesig, a fydd yn rhoi buddsoddiad o tua £600 miliwn.


“Gobeithio felly y gall fod lleoliadau gwledig ar gyfer cyflogwyr trefol a’u gweithwyr, gan leihau cymudo a gwneud y gorau o dechnoleg cyflyn iawn.”

Dywedodd Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru “Mae Sioe’r Fro yn ddigwyddiad busnes proffil uchel ac rydym yn falch o gael gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i gynnal y brecwast busnes.

 

Mae calibr y panel a dangosodd y gwesteion a fynychodd y digwyddiad gryfder y gymuned fusnes leol a’r cyfleon sy’n bodoli ar gyfer busnesau uchelgeisiol.”

Ariannwyd y digwyddiad yn rhannol trwy gyfrwng Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan y Gronfa Wledig Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg.