Cost of Living Support Icon

 

Arweinydd y Cyngor yn mynd i ddigwyddiad Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Roedd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, John Thomas, a’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Rob Thomas, yn bresennol mewn digwyddiad Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ar gyfer Ysgol Gynradd yr Holl Saint ym Mharc Jenner. 

 

  • Dydd Llun, 19 Mis Chwefror 2018

    Barri

    Bro Morgannwg



Cyflwynwyd y gweithdy bore, a drefnwyd mewn partneriaeth â’r Cyngor, i’r bobl ifanc gan y gweithiwr addysg a chyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru Steve Jenkins, a aeth ati i’w haddysgu am hiliaeth drwy weithgareddau rhyngweithiol a thrafodaethau. 


Gofynnwyd i’r disgyblion baratoi ar gyfer cynhadledd i’r wasg, a oedd yn cynnwys creu enw papur newydd ac ymchwilio i ragfarn mewn chwaraeon a chymdeithas ehangach. 

 

redcardGwnaethant ddarllen papurau newydd a blogiau ar-lein er mwyn pwyso a mesur sut yr oeddent wedi’u hysgrifennu, ac yna, bu’n rhaid iddynt lunio eu herthygl eu hunain. 


Roedd rheolwr Tref y Barri, Gavin Chesterfield, y rheolwr cynorthwyol Mike Cosslett a’r chwaraewr Jordan Cotterill hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, gan gymryd rhan yn y gynhadledd ac ymunodd Maeres Bro Morgannwg Janice Charles hefyd. 


Derbyniodd bob disgybl docyn i weld gêm Clwb Pêl-droed Tref y Barri yn Uwch Gynghrair Cymru. 

Dywedodd y Cyng. Thomas: Roeddwn wrth fy modd bod yn bresennol mewn digwyddiad pwysig, lle y tynnwyd sylw at hiliaeth a gwahaniaeth i blant mewn modd meddylgar a diddorol. 


“Fel Cyngor, rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chydnabod pwysigrwydd hyrwyddo’r neges honno i’r gymuned ehangach. Mae digwyddiadau fel y rhain yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni hynny.”