Cost of Living Support Icon

Esbonio Newididau i Ailgylchu a Gwastraff 

Llythyr at drigolion 

20 Chwefror 2018

 

Ynghyd ag uwch-swyddogion rheoli gwastraff o Gyngor Bro Morgannwg, ysgrifennais at bob un o'r trigolion yn 2011, er mwyn esbonio'r rhesymau dros symud o wasanaeth casglu ailgylchu ymyl y ffordd a ddidolir gan y preswylydd lle y cafodd deunyddiau gwahanol eu casglu dros gyfnod o bythefnos, i wasanaeth casglu gwastraff ailgylchadwy cymysg wythnosol lle y gallai pob deunydd fod yn gymysg a’i gasglu’n wythnosol. Ar yr adeg honno, roedd angen rhoi hwb i’n perfformiad ailgylchu er mwyn symud o 40% o’r holl wastraff domestig a gynhyrchir i'r 52% sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru erbyn 2012/13. 

Cox, Geoff

 

Gydag ymdrechion sylweddol ein trigolion, rhagorom ar y 52% ac am y cyfnod 2015/16 roedd gan Fro Morgannwg yr ail uchaf o ran ffigurau ailgylchu yng Nghymru, sy'n profi bod y newid mewn gwasanaeth yn gywir yr adeg honno.

 

Yn 2011, dywedon ni y byddai'n rhaid i'r trefniadau ailgylchu a chasglu gwastraff gael eu cadw o dan adolygiad er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gynaliadwy, yn bodloni amcanion Llywodraeth Cymru a’r Strategaeth Gwastraff Genedlaethol. Hefyd dywedon ni y byddai'n rhaid monitro marchnadoedd y byd ar gyfer ailgylchu er mwyn gweld a fyddai angen casglu rhai deunyddiau penodol yn y dyfodol er mwyn diogelu eu gwerth. Un o’r anfanteision gyda deunydd ailgylchu cymysg yw bod ei werth yn gyffredinol yn llai na deunyddiau a gafodd eu didoli gan y preswylydd, oherwydd y posibilrwydd o groeshalogi. Yn y bôn, mae ailgylchu cymysg yn llai dymunol ac felly'n llai gwerthfawr na'r un deunydd a gafodd ei ddidoli gan y preswylydd. 

 

Mae llawer wedi newid ers 2011. Nid ydym bellach yn y 10 uchaf yng Nghymru ar gyfer ailgylchu, mae ein costau ailbrosesu ailgylchu ar gyfer ein deunyddiau cymysg yn cynyddu oherwydd sefyllfa marchnadoedd y byd ac yn benodol Tsieina yn gwahardd yr holl ailgylchu a fewnforir.  Er ein bod yn anfon ychydig iawn o’n deunydd i Tsieina, mae’r marchnadoedd rydym yn eu defnyddio bellach yn cael eu heffeithio gan y newid hwn. Mae marchnad y byd ar gyfer ailgylchu yn bwysig oherwydd, yn y pen draw, mae’n effeithio ar bris y nwydd. Mae’n bosibl y daw dydd pan nad oes marchnad ar gyfer deunydd ailgylchu o safon is, sy’n golygu y bydd rhaid anfon y fath ddeunydd i safleoedd tirlenwi neu ei waredu gan broses arall megis llosgi.  Mae hyn yn golygu bod darparu deunydd wedi’i ailgylchu o safon uwch yn dod yn fwyfwy pwysig. Yn ogystal, fis Ionawr 2015, daeth deddfwriaeth i rym (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff Erthyglau 10[2] ac 11[1] sy’n gofyn bod awdurdodau lleol yn “cymryd camau i hyrwyddo ailgylchu o safon uchel ac at y diben hwn, gosod casgliadau gwastraff ar wahân lle y bo’n dechnegol, amgylcheddol ac economaidd ymarferol a phriodol i fodloni’r safonau angenrheidiol ar gyfer y sectorau ailgylchu perthnasol”. Mae’r Gyfarwyddeb yn gofyn bod casgliadau ar wahân yn cael eu gosod “ar gyfer papur, metel, plastig a gwydr o leiaf”, a chafodd y gofyniad hwn ei drawsosod i mewn i ddeddfwriaeth y DU gan Reoliadau Gwastraff (Diwygiad Cymru a Lloegr) 2012.  

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynorthwyo Cyngor Bro Morgannwg wrth asesu ein cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth newydd a hefyd Polisi Gwastraff Cenedlaethol trwy adolygu ac adrodd am ein hopsiynau gwastraff. 

 

Rwy’n cyflwyno’r adroddiad a gynhyrchwyd gan eu partneriaid y Rhaglen Weithredu Gwastraff ac Adnoddau (WRAP), yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor ar ddydd Llun 19 Chwefror 2018. Mae’r adroddiad yn rhoi manylion o ganlyniadau'r broses hon a’r newidiadau i’n gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu rwy'n credu sy'n ofynnol er mwyn ein galluogi i reoli ein costau gwastraff yn y dyfodol, er mwyn parhau o fewn deddfwriaeth bresennol a bwrw'r targed ailgylchu o 70% ar gyfer 2024/25. 

 

Bydd y newidiadau yn destun ymgynghoriad cyn gweithredu, ond rwy’n argymell symud i gasgliadau ailgylchu sych wythnosol a ddidolir gan y preswylydd yn ddiweddarach eleni. Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar y Cyngor yn derbyn y cyllid cyfalaf sy’n angenrheidiol gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo gyda’r newid o ran cerbydau casglu ac adeiladu gorsaf trosglwyddo gwastraff ar dir y mae’r Cyngor yn berchen arno ar Ystâd Fasnach Yr Iwerydd, Y Barri. Dylid nodi bod cyllid grant cyfalaf Llywodraeth Cymru ond ar gael i Gynghorau sy’n symud tuag at gasgliadau ymyl y ffordd ar wahân ar gyfer ailgylchu sych oherwydd bod hyn yn cydymffurfio â 'Glasbrint' Llywodraeth Cymru ar gyfer casgliadau a'r Polisi Gwastraff Cenedlaethol ar hyn o bryd. Amcangyfrifir y byddai hyn yn cynhyrchu arbedion i'r Cyngor o tua £400mil y flwyddyn o arbedion trafnidiaeth a gwerthoedd gwerthiant deunyddiau ailgylchu mwy.  Byddai’r gwasanaeth yn defnyddio’r un cynwysyddion (blychau plastig a bagiau glas) a byddai gofyn am 4 o’r rhain; 1 ar gyfer metelau a phlastigau, 1 ar gyfer papur, 1 ar gyfer cardfwrdd ac 1 ar gyfer gwydr.    

 

Cynigir bod casgliadau gwastraff yn aros yr un peth.

 

Yn debyg i lawer o Gynghorau yng Nghymru rwyf nawr yn cynnig terfyn i nifer y bagiau du y gellir eu rhoi allan i'w casglu i ddau fag y pythefnos er mwyn ceisio annog cynnydd o ran ailgylchu.  Caiff consesiynau eu cynnig ar gyfer teuluoedd mawr a’r rhai sydd â gofynion gwastraff penodol, megis angen gwaredu cynhyrchion mislif. Dyma un o’r ffactorau a gaiff eu hystyried fel rhan o’r broses ymgynghori gyhoeddus.

Waste and recycling lorry

 

Rwy’n gwerthfawrogi bod yr hyn a awgrymir yn newid mawr yn y gwasanaeth a fydd yn effeithio ar bob preswylydd, ac eto, rwy'n credu ei fod yn newid angenrheidiol ar yr adeg hon, fel yr oeddwn yn credu pan wnaethom weithredu newidiadau mawr i’r gwasanaeth hwn yn 2011. Mae ein costau refeniw yn parhau i godi gyda chymysgu oherwydd safon y deunydd a marchnadoedd rhyngwladol sy'n gostwng, mae ein perfformiad o ran ailgylchu yn statig ac rydym yn gofyn am fuddsoddiad cyfalaf sylweddol er mwyn osgoi dirwyon, sef £200 y dunnell fetrig o wastraff na chaiff ei ailgylchu os byddwn yn methu bwrw targedau 2024/25. Nid yw buddsoddiad ar gael i ni oni bai ein bod yn alinio ein gwasanaethau’n well gyda’r Polisi Gwastraff Cenedlaethol.

 

Rwy’n ceisio cymorth a dealltwriaeth ein holl drigolion wrth i ni symud i’r amser heriol hwn o ran rheoli gwastraff yng Nghymru. Fel Cyngor rydym wedi llwyddo i osgoi arferion cyfyngol gyda’n targedau gwastraff hyd yn hyn ond yn anffodus ni all hyn barhau oherwydd y targedau rydym yn eu hwynebu a’r risgiau o beidio â bwrw’r targedau hynny. Wrth gwrs, byddwn yn rhoi pob cymorth ag y gallwn pe bai Cabinet y Cyngor yn y pen draw yn penderfynu symud y newidiadau hyn ymlaen. Rwy’n edrych ymlaen unwaith eto i arwain y ffordd yng Nghymru yn y gwasanaeth hynod bwysig hwn.

 

Y Cynghorydd Geoff Cox

Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth  

Cyngor Bro Morgannwg