Cost of Living Support Icon

 

Canslo cynigion tonfyrddio i Barc Gwledig Cosmeston 

 

Ni fydd cynlluniau i agor cyfleuster tonfyrddio ym Mharc Gwledig Cosmeston yn mynd rhagddynt mwyach yn dilyn penderfyniad gan Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg. 

 

  • Dydd Mawrth, 09 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg



Cynigiwyd yn flaenorol i’r Cyngor weithio gyda gweithredwr chwaraeon dŵr masnachol i gyflwyno tonfyrddio-gwifren yn llyn y dwyrain fel rhan o raglen waith i godi incwm a gwella cyfleoedd twristiaeth i’r parc gwledig. 

 

Lake at Cosmeston

Dywedodd y Cyng John Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Roeddwn bob amser yn bwriadu adolygu’r cynnig hwn am nad oeddwn fyth yn gwbl siŵr ei fod yn addas i Cosmeston.

 

 “Yn amlwg mae angen diogelu dyfodol parciau gwledig y Fro drwy gyflwyno atyniadau newydd priodol a gweithgareddau masnachol addas - ond rhaid iddynt fod yn addas a phriodol.

 

 “Y mae gennym hefyd gyfrifoldeb yr un mor bwysig i ddiogelu amgylchedd naturiol y parc ac ar ôl siarad â thrigolion ac ymgynghori ag aelodau etholedig lleol nid oeddwn wedi fy argyhoeddi bod tonfyrddio’n briodol i Cosmeston.

 

 “Yn y pen draw, eiddo’r cyhoedd sy’n ei ddefnyddio yw’r parc, a’u barn nhw sydd wedi gwneud imi benderfynu na ddylai’r cynllun hwn fwrw ymlaen.” 

 

Cafodd y gweithredwr arfaethedig wybod am benderfyniad y Cyngor ym mis Rhagfyr. Er bod o hyd gais cynllunio ar gyfer y cynllun, ni fydd y Cyngor, fel tirfeddiannwr Cosmeston, bellach yn caniatáu i unrhyw gyfleuster newydd gael ei adeiladu.

 

Dywedodd y Cyng. Kathryn McCaffer, yr Aelod Lleol dros ward Plymouth ym Mhenarth: "Mae’n wych bod yr Arweinydd a’m cydweithwyr wedi dod i’r penderfyniad hwn. 

 

"Rwyf bob amser wedi dweud y byddai tonfyrddio’n gwneud defnydd amhriodol o Barc Gwledig Cosmeston.  Er fy mod yn cydnabod yn llawn yr angen i annog ystod eang o weithgareddau ac atyniadau, mae’n rhaid iddynt weddu i rinweddau amgylcheddol y Parc."