Cost of Living Support Icon

 

Y Fonesig Judi Dench ymhlith rhestr o ser a fydd yn ffilmio ar Bier Penarth

Mae’r FONESIG Judi Dench a'r enillydd Oscar, Jim Broadbent ymhlith y rhestr o sêr mawr a fydd yn ffilmio ar Bier Penarth dros y dyddiau nesaf.

 

  • Dydd Mercher, 18 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg

    Penarth



pier1Enw arall ar y rhestr yw Eddie Izzard, digrifwr ac actor; bydd y pier yn gefndir i olygfeydd yn Six Minutes to Midnight, ffilm gyffro hanesyddol.


Bydd y strwythur o Oes Fictoria, sy’n eiddo i Gyngor Bro Morgannwg, yn cael ei ddefnyddio fel lleoliad o’r oes o’r blaen ar gyfer y cynhyrchiad y maen nhw eisoes wedi ffilmio rhannau ohono ar lan y môr Penarth.


Eddie Izzard, Celyn Jones ac Andy Goddard ysgrifennodd sgript y ffilm, sy’n adrodd hanes ysgol berffeithio unigryw yn Golden Grove, sy’n addysgu merched y Natsïaid elit cyn cychwyn yr Ail Ryfel Byd.


Y Fonesig Judi Dench yw prifathrawes yr ysgol yn y ffilm gyfnod ac mae Eddie Izzard yn athro sydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.


Hwn yw’r diweddaraf ymhlith nifer o gynyrchiadau i ddewis y Fro fel lleoliad ffilmio, ar y cyd â Dr Who, Casualty a Sherlock sydd wedi defnyddio’r ardal yn y gorffennol.


Bydd y pier ar gau i’r cyhoedd yn ystod y ffilmio, o ddydd Mercher 18 i ddydd Sadwrn 21 Gorffennaf, a chaiff unrhyw fusnes y bydd hyn yn effeithio arno iawndal am hynny gan y cwmni cynhyrchu.

pier3Dywedodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cyng. John Thomas: “Rydyn ni’n ystyried hwn yn gyfle ardderchog i un o dirnodau mwyaf eiconig y Fro gael ei ddefnyddio mewn cynhyrchiad sy’n debygol o ddenu cynulleidfa fawr. Mae hefyd yn gyfle gwych i sicrhau incwm ar gyfer y Cyngor, na allwn ni ei wrthod o ystyried y sefyllfa ariannol sydd ohoni!


“Caiff busnesau sydd wedi gorfod cau yn ystod y cyfnod hwn yn cael iawndal priodol am darfu ar eu gweithgareddau ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn fodd i ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal yn yr hirdymor.”

Dywedodd llefarydd y cwmni cynhyrchu: “Mae Six Minutes to Midnight yn ffilm gyffrous sydd wedi’i gosod yn y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd gydag Eddie Izzard, Judi Dench a Jim Broadbent yn cymryd rhan ynddi a chaiff ei rhyddhau yn y DU gan Lionsgate. Rydyn ni’n ffilmio’r holl gynhyrchiad mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru ac rydyn ni wrth ein bodd bod Bro Morgannwg wedi ein cynorthwyo â’n hanghenion ffilmio gystal. Mae hyn wir yn dangos bod y Fro yn gyngor sy’n croesawu ffilmiau a byddwn ni’n sicr yn dod yn ôl gyda chynyrchiadau yn y dyfodol.”