Cost of Living Support Icon

 

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol

Fel rhan o Brosiect Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Datblygu Chwaraeon a Chwarae Bro Morgannwg, mae cyrsiau wedi’u trefnu gyda Mind Cymru i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd meddwl. 

 

  • Dydd Mercher, 20 Mis Mehefin 2018

    Bro Morgannwg



Training Course

Bydd y cwrs hefyd yn edrych ar effaith bositif gweithgarwch corfforol ac iechyd corfforol a meddyliol. Bydd pob hyfforddwr neu wirfoddolwr sy’n mynychu yn cael Band Garddwrn a Bathodyn y gallant eu gwisgo yn ystod sesiynau hyfforddi i ddangos i bobl eu bod wedi’u hyfforddi ar Iechyd Meddwl.

 

Mae hyn yn rhan o’r prosiect Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn y Fro lle gall Clybiau Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol gael eu hysbysebu fel rhai sy’n Ymwybodol o Iechyd Meddwl.

 

Cyrsiau

Mae pob un o’r cyrsiau canlynol yn rhydd i fynychu:

  • Ysgol St Cyres  , Penarth - Dydd Mercher 12 Medi, 6.00pm - 9.00pm    

  • Swyddfeydd Dinesig, Y Barri - Dydd Iau 4 Hydref, 6.00pm – 9.00pm   

  • Canolfan Gymunedol yr Hen Ysgol, Llanilltud Fawr - Dydd Iau 8 Tachwedd

    , 6.00pm – 9.00pm

Mental Health Awareness Logo
  • Archebwch eich lle

Os hoffech gadw lle ar y cyrsiau cysylltwch â Simon Jones, Uwch Swyddog Datblygu Bywyd Iach: