Cost of Living Support Icon

 

Lansio ymgyrch newydd i fynd i’r afael â sgamiau troseddol i nodi Mis Ymwybyddiaeth am Sgamiau

Mae’n wybyddus bod dros 470 o bobl ledled y Fro wedi ymateb i sgamiau dros y ddwy flynedd diwethaf, felly mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda’r Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir (GRhRh) i geisio atal sgamiau.

 

  • Dydd Iau, 31 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg



Mae Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau yn ymgyrch newydd, wedi ei lansio gan Dîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol ar gyfer pawb sydd am eu hamddiffyn eu hunain, eu cymdogion, neu eu hanwyliaid rhag sgamiau.

 

Amcanion yr ymgyrch yw:

 

  1. Tynnu sylw at faint y broblem drwy annog cymunedau a’r genedl i siarad am sgamiau
  2. Newid y ffordd y mae pobl yn meddwl am bobl sydd wedi dioddef dan law sgamwyr
  3. Atal pobl rhag dechrau neu barhau i ddioddef dan law sgamwyr drwy estyn rhagor o gymorth
  4. Recriwtio unigolion a chymunedau i ymuno â’r frwydr yn erbyn sgamiau a chred cenedl ddi-sgam

 

Mae sgamiau yn costio rhwng £5bn a £10bn i bobl y DU bob blwyddyn. Ar ben yr effaith ariannol, gall sgamiau gael effaith emosiynol a seicolegol ddofn ar ddioddefwyr.

 

Mae Mis Ymwybyddiaeth am Sgamiau yn para drwy gydol Mehefin, ac mae’n gyfle i godi ymwybyddiaeth. Bydd yn arwydd clir ein bod yn gwrthwynebu troseddau ac arferion ysglyfaethus sy’n effeithio ar filiynau o bobl ar hyd a lled y DU.

 

Mae’r tîm GRhRh yn gweithio gyda Heddlu De Cymru yn y Fro, gyda’u Swyddogion Cymorth yn y Gymuned yn ymweld â dioddefwyr, neu bobl a allai fod yn ddioddefwyr, i greu cyswllt a darparu cymorth cychwynnol.

 

Mae Tîm Diogelu'r GRhRh yn ymweld wedyn, i helpu pobl rhag dioddef sgamiau eraill. Gall swyddogion helpu drwy adnabod ac egluro post gan sgamwyr, gosod ffyrdd o flocio galwadau, cyfeirio at asiantaethau eraill a gweithio gyda banciau a sefydliadau ariannol i osod mesurau diogelu yn eu lle.   

 

Dywedodd y Cyng. Hunter Jarvie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Rheoleiddio a Chyfreithiol: “Mae’r Mis Ymwybyddiaeth am Sgamiau yn gyfle gwych i siarad am sgamiau, a thynnu sylw ar yr hyn sy’n cael ei wneud yn lleol ac yn genedlaethol i fynd i’r afael â sgamiau.

 

“Mae ein tîm GRhRh yn gweithio’n galed gyda phreswylwyr a phartneriaid allweddol i fynd i’r afael â’r broblem hon, a rhoi diwedd ar sgamiau. Byddwn i’n annog pobl i gysylltu os ydyn nhw’n teimlo eu bod wedi dioddef o sgamiau neu’n adnabod rhywun a allai fod wedi, neu yn, mynd drwyddi.”

 

Mae sesiynau ymwybyddiaeth a hyfforddi ar gael ar-lein, ac mewn person. Mae manylion am sesiynau ymwybyddiaeth lleol ar wefan Ffrindiau yn erbyn Sgamiau.

 

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi dioddef dan law sgamiwr, neu’n adnabod rhywun arall sydd yn y sefyllfa honno, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506 neu’r GRhRh ar 0300 123 6696. Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar wefan Cyngor ar Bopeth.

 

*Asesir fesul achos.

 

Take a Stand