Cost of Living Support Icon

 

Grŵp Sinclair i noddi Gŵyl Drafnidiaeth y Barri 

Caiff Gŵyl Drafnidiaeth y Barri 2018 ei noddi gan Grŵp Sinclair fel rhan o ddull partneriaeth arloesol i gefnogi digwyddiadau’n cael eu datblygu gan Gyngor Bro Morgannwg

 

  • Dydd Mawrth, 05 Mis Mehefin 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



Barry Festival of Transport

 

Bydd gŵyl drafnidiaeth flynyddol Ynys y Barri eleni yn arddangos hen fysus ym maes parcio Nells Point, ceir clasurol ac arbenigol ar hyd y promenâd a’r gerddi, a beiciau modur hanesyddol dan y lloches ddwyreiniol.   

 

Bydd Grŵp Sinclair yn arddangos sampl o’u modelau cyfredol gydag Audi, Mercedes-Benz, Seat, Skoda, Smart a Volkswagen yng ngerddi’r promenâd yng nghanol yr ŵyl. 

 

Bydd teithiau bws treftadaeth dwy ffordd am ddim yn rhedeg gydol y dydd rhwng Ynys y Barri a'r Depo ar Broad Street. 

Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg:  “Mae’r Cyngor wastad wedi ceisio gweithio gyda chymdeithasau lleol megis Grŵp Cadw Trafnidiaeth Caerdydd i gynnal ystod eang o ddigwyddiadau bob blwyddyn mewn cyrchfannau fel Ynys y Barri.   

 

“Eleni rydym yn ceisio cynnwys busnesau lleol hefyd ac mae’n bleser gennym gyhoeddi Grŵp Sinclair fel y cyntaf i ddod ymlaen i gefnogi digwyddiad.  

 

“Mae eu cefnogaeth ariannol wedi helpu i wneud Gŵyl Drafnidiaeth eleni yn bosibl a bydd y cerbydau a’r stondin a gyflwynir ganddynt yn gwneud y digwyddiad yn well i bawb sy’n mynychu.”  

Gellir cael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau'r haf yn Ynys y Barri a lleoliadau eraill ym Mro Morgannwg yn www.visitthevale.com.