Cost of Living Support Icon

 

Cyngor y Fro a'r gwasanaeth tân yn profi parodrwydd Tŷ Awbery

Mae criwiau tân a staff y cyngor wedi disgrifio’r ymarfer diogelwch tân ar y cyd yn Nhŷ Awbery yn y Barri yn llwyddiant ysgubol.

 

  • Dydd Llun, 11 Mis Mehefin 2018

    Bro Morgannwg



 

Yn ystod yr ymarfer, a gynhaliwyd ym mis Mai, roedd y timau'n defnyddio mwg synthetig i weithredu fel tân mawr ffug yn ardal gymunedol yr adeilad. Golyga hyn eu bod yn gallu gwneud prawf realistig o'u cynlluniau ymateb.

 

 

 

Picture 1

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Parker, Aelod Cabinet dros Dai: "Prif flaenoriaeth tîm tai'r Cyngor yw diogelwch ein tenantiaid.

 

"Mae diogelwch tân yn rhywbeth yr ydym yn cymryd o ddifrif ac rydym yn cydweithio'n agos â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru er mwyn sicrhau os bydd yna ddigwyddiad, y byddwn mor barod ag y gallwn fod.

 

"Roedd hwn yn ymarfer llwyddiannus i'r Cyngor a'r gwasanaeth tân, ond hefyd i drigolion Tŷ Awbery, a gobeithiwn y byddant yn cael sicrwydd bod y cynlluniau sydd ar waith wedi'u profi dan amodau eithriadol o realistig.

 

"Rydym yn gobeithio cynnal ymarferion tebyg ar gyfer blociau o fflatiau tebyg yn y dyfodol."

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae rhaglen adnewyddu 18 mis o £2.3 miliwn ar y gweill ar hyn o bryd yn Nhŷ Awbery, a fydd yn trawsnewid y fflatiau'n fewnol ac edrychiad allanol yr adeilad cyfan.

 

Mae gan y Cyngor asesiadau risg tân diweddar ar gyfer pob fflat sydd â mynediad cymunedol ac mae'n cynnal arolygiadau misol i bob bloc.