Cost of Living Support Icon

Rhentu Cytiau Traeth am Flwyddyn

Mae nifer gyfyngedig o gytiau traeth mawr a bach yn Ynys y Barri ar gael i'w rhentu am flwyddyn o 01 Ebrill 2018 tan 31 Mawrth 2019. 

 

Beach huts at Barry Island

Mae gan gytiau traeth lliwgar Ynys y Barri olygfeydd ysblennydd dros Fae Whitmore; sy’n eu gwneud nhw’n berffaith i unigolion, teuluoedd neu grwpiau sydd am dreulio llawer o amser yn y gyrchfan hyfryd.

 

Mae chwe chwt traeth bach a chwe chwt traeth mawr ar gael i’w rhentu:

  •  

    • Cytiau Bychan:  2.5m x 1.8m gyda socedi trydanol.
  •  

    • Cytiau Mawr:  2.4m x 2.5m, gyda socedi trydanol a dŵr sy’n rhedeg.

     

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu cwt traeth am flwyddyn, mynegwch eich diddordeb drwy Cyswllt Un Fro:

  • 01446 700111

 

Dyddiad cau:  5.00pm ar ddydd Mercher, 28 Mawrth 2018

 

Yna caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu dewis ar hap a’u hysbysu ddydd Iau, 29 Mawrth 2018.