Cost of Living Support Icon

 

Diwrnodau gweithgareddau yn cynnig cyfle i deuluoedd y Fro i ddysgu ieithoedd a sgiliau 

Rhoddir cyfle i deuluoedd y Fro wneud rhywbeth gwahanol gyda’i gilydd yr haf hwn fel rhan o gynllun peilot sy’n cael ei gynnal gan Dîm Cymunedau Gwledig Creadigol Cyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Mercher, 14 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



Family making biscuits

Mae’r tîm yn treialu ‘Diwrnodau Gweithgareddau’ sy’n galluogi plant oed ysgol a’u rhieni neu warcheidwaid i roi cynnig ar wahanol weithgareddau gyda’i gilydd. 

 

Mae’r rhain yn cynnwys dosbarthiadau Ffrangeg, crefftau, coginio, dysgu yn yr awyr agored, ymlacio, dawns, sgiliau'r syrcas a hyd yn oed sesiynau ffitrwydd milwrol.

 

Mae’r project hwn yn cael ei ariannu drwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg.

 

ARCHEBU NAWR 

 

 

Bydd y peilot yn cael ei gynnal rhwng mis Ebrill a mis Hydref. Bydd y gweithgareddau’n cael eu cynnal mewn pedair cymuned yn ardaloedd gwledig y Fro: Sain Tathan, Gwenfô, y Rhws ac Ystradowen. 

 

 “Roedd yr adborth a gafodd ein tîm Cymunedau Gwledig Creadigol gan drigolion yn pwysleisio bod angen mwy o gyfleoedd ar blant mewn cymunedau gwledig i wneud gweithgareddau. Dyna pam rydym yn treialu'r cynllun newydd hwn. 

 

Yn ogystal â’r cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd, gobeithiwn y bydd yn cynnig rhyddhad o bwysau bywyd bob dydd ac yn galluogi teuluoedd i dreulio rhywfaint o amser gwerthfawr yng nghwmni ei gilydd. Gallai hyd yn oed arwain at hobi teuluol hirdymor newydd." - Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: