Cost of Living Support Icon

 

Bydd sefydliadau yn y Fro yn elwa ar £76,100 o'r Gist Gymunedol

 

Bydd clybiau a sefydliadau trwy’r sir yn derbyn arian gan gynllun y Gist Gymunedol a ariennir gan Chwaraeon Cymru, ac fe’i rheolir yn lleol gan Dîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor y Fro.

 

  • Dydd Iau, 15 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



 

Mae’r cymorth hwn yn golygu y bydd 28 o wahanol gampau a gweithgareddau corfforol trwy’r Fro yn elwa, gan alluogi 200 o bobl i dderbyn hyfforddiant hyfforddwr, 59 o bobl i gychwyn hyfforddiant cymorth cyntaf a 38 o bobl i fynychu hyfforddiant diogelu.

sport wales

 

Gall sefydliadau wneud cais am arian i helpu i greu gweithgareddau newydd neu i wella rhai presennol.

 

Gellir defnyddio’r arian mewn meysydd megis addysg i hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, prynu offer ar gyfer gweithgareddau newydd a chostau hyfforddi ar gyfer gweithgareddau newydd a marchnata.

 

 

Nid yn unig ar gyfer datblygu gweithgareddau chwaraeon y mae arian y Gist Gymunedol, gellir hefyd ei ddefnyddio i ddatblygu cyfleoedd gweithgareddau corfforol megis grwpiau rhedeg a beicio.

 

 

Mae sefydliadau nad ydynt yn rhai chwaraeon sydd wedi derbyn arian yn cynnwys grwpiau cadéts awyr lleol, cymdeithasau cymunedol, cymdeithasau tai a chlybiau ieuenctid. Gall y rhan fwyaf o sefydliadau wneud cais cyhyd ag y gallant ddangos eu bod yn datblygu gweithgaredd newydd rheolaidd ac y gallant fodloni’r meini prawf.

 

 

Bydd cynllun y Gist Gymunedol yn rhedeg o fis Ebrill eleni, a bydd £81,500 ar gyfer Bro Morgannwg yn y flwyddyn i ddod.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu cyfleoedd ar gyfer eich sefydliad, efallai y gallai arian gan y Gist Gymunedol eich helpu.

 

 

Bydd cyfarfod nesaf panel y Gist Gymunedol ar 19 Ebrill. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5 Ebrill.

 

 

Cysylltwch â Karen Davies, Rheolwr Datblygu Chwaraeon a Chwarae ar 01446 704793 am ragor o wybodaeth.