Cost of Living Support Icon

 

Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro yn croesawu ymwelwyr yn rhan o broject Hyb Affrica Cymru

 

Teithiodd menywod o Kenya ac Ethiopia i Gymru i dynnu sylw at eu gwaith i roi grym yn nwylo menywod a brwydro yn erbyn anffurfio organau cenhedlu menywod yn Affrica ac yn y DU.

 

 

  • Dydd Llun, 19 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



 

Roedd eu hymweliad yn rhan o broject Hyb Affrica Cymru ‘Gwneud iddo Ddigwydd', a ddatblygwyd gan Tracy Pallant, gweithiwr datblygu, dros sawl blwyddyn.

 

Cafodd pum coeden ifanc eu plannu yn barc Gwledig Porthceri gan Hellen Nkuraiya o Kenya ac Adi a Bettie o Ethiopia yn ogystal ag aelodau Côr Cymunedol Porthceri a Tracy Pallant, gwaith a hwyluswyd gan geidwad safle, Mel Stewart.

 

Dewiswyd cyfres o ganeuon i’w chwarae i goffáu’r digwyddiad, gan gynnwys Wangari, teyrnged i Wangari Maathai – yr enillydd gwobr Nobel o Kenya a ddechreuodd yr ymgyrch plannu coed “Llain Las” i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac erydu pridd yn Kenya.

 

Y caneuon eraill oedd yr emyn Cymraeg, Calon Lân, Sunset Poem, Iqude – Cân o dde Affrica gan fenywod, E Malama, bendith i'r Ddaear o Hawaii, a chân Swahilïaidd enwog a Jambo a arweiniwyd gan Hellen Nkuraiya.

 

Dywedodd Mel Stewart: “Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych a symbolaidd i dynnu sylw at gysylltiadau ledled y byd yn ogystal â bod yn arwydd ymarferol i gydnabod y ffaith bod ein hinsawdd yn newid a’n bod yn gallu gwneud newidiadau syml, y mae plannu coed yn enghraifft gwych ohonynt, i geisio leihau hyn.”

 

 Choir tree planting meadow