Cost of Living Support Icon

 

Pobl sy’n gadael gofal i gael eu heithrio o’r dreth Gyngor yn y Fro

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno i eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag gorfod talu'r dreth gyngor er mwyn ceisio rhoi'r sylfaen gorau posibl i bobl ar gyfer bywyd fel oedolyn.

 

 

  • Dydd Mawrth, 01 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg



Gall y Cyngor roi gostyngiad ar y dreth gyngor i rai grwpiau o bobl dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (1992). Cytunodd cabinet yr awdurdod lleol i ymestyn hyn i bobl sy'n gadael gofal mewn cyfarfod ar 30 Ebrill. 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Mae plant a phobl ifanc sydd yng ngofal yr awdurdod lleol yn hytrach na’u rhieni ymhlith y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae gan y Cyngor ddyletswydd nid yn unig i’w cadw nhw’n ddiogel, ac i sicrhau bod eu profiadau mewn gofal yn rhai positif, ond hefyd i sicrhau eu bod nhw’n cael y cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd a llwyfan gadarn ar gyfer llwyddiant fel oedolion ifanc.

 

 

Thomas-John Cllr“Mae pobl sy’n gadael gofal yn wynebu llawer o heriau pan fyddant yn symud i lety annibynnol ac yn dechrau rheoli eu harian eu hunain am y tro cyntaf. Nod y cam yr ydym wedi'i gymryd heddiw yw gwneud y broses bontio’n llawer haws.

 

“Mae ganddo’r potensial i fod ag effaith fuddiol iawn ar eu bywydau ac rwy’n falch iawn o fod wedi gweithredu hyn.”

 

 

 

Gwnaethpwyd y penderfyniad, i gyflwyno’r cymorth newydd hwn i bobl sy’n gadael gofal, ar ôl i’r mater gael ei godi gan y Cynghorydd Vince Bailey mewn cyfarfod o’r cyngor llawn ym mis Rhagfyr 2017.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bailey: “Mae pobl sy’n gadael gofal yn wynebu rhwystrau ofnadwy o uchel o ran cael cyflogaeth ac addysg, a byddai eithriad yn y dreth gyngor yn gwaredu rhai o'r heriau ariannol sydd o'u blaenau.

 

 “Mae’n ddigon anodd i unrhyw berson ifanc sydd am fyw ar ei ben ei hun am y tro cyntaf, ond i rywun sy’n gadael gofal heb gefnogaeth eu rhieni, gall rheoli arian fod yn her fawr.

 

 “Mae hyn ynghlwm wrth roi help llaw i rai o’r pobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas – ac rwy’n falch o fod wedi helpu i godi proffil y mater difrifol hwn.”

 

 

 

Bydd yr eithriad yn berthnasol i bawb sy’n gadael gofal nes byddant yn 25. Bydd yn ddigon ar gyfer pris llawn unrhyw dreth gyngor sy'n daladwy a bydd yn cael ei ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2018.

 

Disgwylir y bydd pris cyfanswm cyffredinol i'r Cyngor o ran eithrio pobl sy'n gadael gofal oddeutu £10,000 y flwyddyn.