Cost of Living Support Icon

 

Clwb cinio Sain Tathan yn lansio i helpu atal allgáu cymdeithasol a codi ysbryd cymunedol

Mae clwb cinio newydd wedi ei lansio yn y Gathering Place yn Sain Tathan yn dilyn cais llwyddiannus am Grant Cymunedau Cryf Cyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Iau, 24 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg



Mae’r clwb yn cwrdd ar ail ddydd Llun bob mis ac, er nad oes cyfyngiad oed, mae wedi ei ddylunio i gynnig cyfle i drigolion hŷn y pentref a’r rhai sy’n byw ymhellach i ffwrdd i fwynhau pryd o fwyd mewn lleoliad cymdeithasol.

 

Roedd y preswylwyr a fynychodd y cinio cyntaf wedi eu plesio’n fawr gan ansawdd y bwyd ac maen nhw’n edrych ymlaen at ginio’r mis nesaf.

 

Mae wedi ei drefnu gan The Gathering Place ar y cyd ag eglwysi yn Sain Tathan a Llanilltud Fawr ac mae gwahoddiad i’r holl gymuned leol fynychu.

 

Gwnaed cyfraniad o £891 i’r project gan Gronfa Grant Cymunedau cryf, sydd â’r nod o wella gwydnwch grwpiau drwy ariannu mentrau gan grwpiau cymunedol, y sector wirfoddol a Chynghorau Tref a Chymuned sy’n hyrwyddo gweledigaeth y Cyngor o ‘gymunedau cryf gyda dyfodol disglair’.

 

 

lunch club

 

 

Cyfarfu’r clwb am y tro cyntaf ar 14 Mai, pan ymunodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a Chadeirydd Pwyllgor Rheoli’r Gathering Place â’r grŵp.

 

Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:“Mae hon yn fenter ffantastig sy’n cynnig cyfle i aelodau cymuned Sain Tathan, llawer ohonynt yn henoed, i gwrdd unwaith y mis i gymdeithasu a mwynhau pryd blasus, gyda bwydlen ardderchog i ddewis ohoni."

 

“Mae gan broject o’r fath swyddogaeth bwysig wrth helpu i atal allgáu cymdeithasol, tra y gall hefyd helpu i ddatblygu ysbryd cymunedol, rhywbeth sydd yn ganolog i gynllun y Cyngor ar gyfer y dyfodol.

 

“Rwyf wrth fy modd fod y Cyngor wedi gallu cefnogi’r cynllun a buaswn yn annog unrhyw un sydd â syniad a allai fod o fudd i’w hardal i ddod at dîm Datblygu Economaidd y Cyngor.”

 

Gellir cysylltu â nhw drwy ffonio 01446 704636 neu e-bostio scgfapplications@valeofglamorgan.gov.uk

 

Mae cyfanswm o £670,000 dros dair blynedd gan Gronfa Grant Cymunedau Cryf hyd at fis Mawrth 2020.

 

Does dim isafswm nac uchafswm grant i’r Gronfa, fodd bynnag, mae gwerth am arian yn ffactor asesu allweddol.

 

Gathering place