Cost of Living Support Icon

 

Sut i osgoi gwenwyn bwyd y Nadolig hwn

Amcangyfrifir bod tua miliwn o achosion o wenwyn bwyd yn y DU bob blwyddyn, a heb roi sylw i hylendid bwyd, nid yw hyn yn dod i ben yn ystod tymor y Nadolig.

 

  • Dydd Mawrth, 27 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg



I atal eich ffrindiau a’ch teulu rhag dioddef gwenwyn bwyd dros y gwyliau, dilynwch yr awgrymiadau hyn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a rennir gan Gyngor Bro Morgannwg i sicrhau mai eich Nadolig yw adeg fwyaf bendigedig y flwyddyn. 

 

 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod ydbwyllgor Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir: 

 

“Gall coginio cinio rhost Nadolig ar gyfer grŵp mawr o bobl fod yn heriol, ac mae’n hollbwysig bod y twrci, neu’r cig arall a ddefnyddir ar ei gyfer, yn cael ei storio, ei ddadrewi a’i goginio’n gywir. Yn yr un modd, mae angen aildwymo a bwyta gweddillion o brydau Nadolig o fewn amser penodol er mwyn osgoi gwenwyn bwyd.

 

 “Dyna pam mae Cyngor y Fro yn cefnogi’r Asiantaeth Safonau Bwyd i’ch helpu i leddfu ar ychydig o’r straen ynghlwm wrth baratoi eich cinio Nadolig ac i gadw’ch teulu yn ddiogel yn ystod yn Nadolig.”

 

 

 

Dyma cyngor i chi ar sut i goginio twrci: 

 

 

Food preparation

Wrth fynd i siopa bwyd Nadolig, ewch â digon o fagiau gyda chi fel y gallwch gadw bwyd amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta ar wahân i osgoi croeshalogi.

 

 

Pen and notepad

Darllenwch y canllawiau ar eich twrci i sicrhau bod digon o amser gennych i’w ddadmer yn llwyr – gall gymryd hyd at bedwar diwrnod.

Peidiwch â golchi twrci amrwd. Y cyfan mae hynny’n ei wneud yw tasgu germau ar eich dwylo, dillad, offer cegin ac arwynebau’r gegin.

 

 

Turkey-Roasting

Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn er mwyn cyfrifo’r amser sydd ei angen i goginio’ch aderyn. Sicrhewch fod y cig yn stemio drwyddo; nad oes cig pinc i’w weld pan fyddwch yn torri’r rhan fwyaf trwchus a bod sudd y cig yn rhedeg yn glir.

 

 

 

Chicken-Sandwich

P’un ai a fyddwch wedi coginio twrci ffres neu un wedi ei rewi, gallwch ddefnyddio’r cig sydd yn weddill i wneud pryd newydd (megis cyri twrci). Mae modd rhewi’r pryd newydd yma, ond sicrhewch eich bod ond yn ei aildwymo unwaith.

 

 

 

 

Meddai Pennaeth Rheoli Clefydau a Gludir mewn Bwyd yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd,

Adam Hardgrave:

 

“Mae pedair egwyddor hylendid bwyd, sef Oeri, Glanhau, Coginio ac Osgoi Trawsheintio , yn bwysig trwy gydol y flwyddyn, ond yn benodol adeg y Nadolig.

 

“Yn y bwrlwm o baratoi’r cinio Nadolig, mae’n bwysig cofio cynllunio ymlaen llaw a chaniatáu digon o amser. Cofiwch fod twrci maint canolig yn gallu cymryd pedwar diwrnod i dadrewi’n llwyr yn yr oergell, ac mae’n hanfodol coginio twrci’n drwyadl fel bod y cig yn chwilboeth, heb unrhyw gig pinc i’w weld, a bod sudd y cig yn llifo’n glir.”

 

 

Am fwy o wybodaeth, ewch ar lein i'r wefan, neu dilynwch @foodgov #SeasonsEatings ar Drydar am gymorth yn ystod y Nadolig.