Cost of Living Support Icon

 

Sgwrs i godi ymwybyddiaeth o gamfanteisio dynol ym Mro Morgannwg

Yn rhan o’r Wythnos Genedlaethol Diogelu, tynnir sylw at waith i fynd i’r afael â chamfanteisio dynol ym Mro Morgannwg a Chaerdydd.

 

  • Dydd Llun, 19 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg



Bydd Nicola Evans yn arwain agenda Mynd i’r Afael â Chamfanteisio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd mewn ymgais i frwydro yn erbyn problem a all fod yn nes atom na’r disgwyl.

 

Bydd yn rhoi cyflwyniad ar y pwnc i weithwyr proffesiynol eraill yr wythnos hon, mewn un o gyfres o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal i godi ymwybyddiaeth o gamfanteisio.

 

Ac er bod nifer yn ystyried y pwnc hwn yn broblem i ddinasoedd mawr ymhell i ffwrdd, gallai achosion o gamfanteisio ddigwydd ym mhobman o’n cwmpas.

 

Dywedodd Ms Evans: “Mae pob achos o gaethwasiaeth fodern yn gamfanteisio dynol, ond nid yw pob achos o gamfanteisio dynol yn gaethwasiaeth."

 

“Byddwn yn amcangyfrif bod miloedd o bobl ledled Caerdydd a’r Fro yn dioddef o gamfanteisio mewn rhyw fodd neu’i gilydd, a gallai rhai ohonynt fod yn dioddef o gaethwasiaeth fodern hefyd.

 

“Nid yw rhai yn derbyn cyflog byw cenedlaethol a bydd eraill yn mynd o soffa i soffa ac o bosibl yn cynnig cymwynasau rhywiol fel ffordd o dalu am aros.

 

“Gan amlaf, mae pobl mewn gwasanaeth domestig yn derbyn cyflog isel dros ben, ond maent yn derbyn hynny gan ei fod yn well na'u sefyllfa flaenorol.

 

“Rwy’n cofio rai blynyddoedd yn ôl, roedd bwyty Indiaidd yn cyflogi teulu o Fwlgaria. Roedd pob un ohonynt yn gweithio o 10am tan 2am am £20 y dydd.

 

“Pan gynigion ni eu helpu i ddod allan o’r sefyllfa, doedd ganddynt ddim diddordeb gan ei fod yn gam i fyny o’u sefyllfa flaenorol.”

 

 

NSW talk

 

I nodi’r Wythnos Genedlaethol Diogelu, mae Cyngor Bro Morgannwg a Chyngor Caerdydd wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau sydd, eleni, yn canolbwyntio ar gamfanteisio.

 

Bydd y pynciau eraill yr ymdrinnir â nhw yn y digwyddiad yn cynnwys Diogelu mewn Chwaraeon, y realiti o fod mewn gang a Llinellau Cyffuriau.

 

 

Meddai Ms Evans: “O ran caethwasiaeth fodern, mae unigolion yn aml yn dioddef trais a bygythiadau ac yn cael eu gorfodi i wneud pethau.”

 

“Meddyliais yn y gêm rygbi ddydd Sadwrn, faint o'r gwerthwyr stryd sy’n cael eu talu'r hyn sy’n ddyledus iddynt, faint o'r menywod hynny sy'n gwerthu rhosod a'r bobl sy'n gweithio yn y ceginau sy’n cael eu talu'n deg?

 

“Mewn unrhyw sefyllfa lle gall rhywun wneud elw, mae posibilrwydd o gamfanteisio.

 

“Mae llawer o'r achosion hyn yn digwydd heb fod neb yn rhoi gwybod amdanynt, ond o ystyried proffil amaethyddol mawr y Fro, yn aml bydd swyddi’n cael eu talu ag arian parod a dyma pryd y gellir camfanteisio ar bobl.

 

“Pan welwch bobl yn gweithio mewn busnes golchi ceir rhad, rhaid i chi ofyn ‘sut mae’r gwasanaeth mor rhad?'

 

"Mae llawer o bobl yn gwybod bod camfanteisio’n digwydd yn erbyn yr unigolion sy’n gweithio yn y busnes golchi ceir, ond dydyn nhw ddim am dalu mwy na £5 i olchi eu car.

 

“Mae digartrefedd a chamddefnyddio cyffuriau yn broblem ar draws y wlad ac mae camfanteisio bob amser yn nodwedd o amgylchiadau o’r fath.”

 

 

Nod yr Wythnos Genedlaethol Diogelu yw i godi ymwybyddiaeth o'r gwahanol ffurfiau ar gamdriniaeth, a phwysleisio’r ffaith bod gan bawb ran i'w chwarae wrth nodi camdriniaeth.