Cost of Living Support Icon

 

Angen deg perfformiwr chwaraeon rhyngwladol ar gyfer Cynllun Academi’r Fro

 

Mae’r tîm yng Nghyngor Bro Morgannwg a Legacy Leisure yn chwilio am 10  perfformiwr chwaraeon rhyngwladol i ymuno â’u cynllun Academi Chwaraeon.

 

  • Dydd Llun, 01 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



Caiff y Cynllun Academi Chwaraeon ei gyflawni fel partneriaeth rhwng Cyngor Bro Morgannwg a Legacy Leisure sy’n rheoli Canolfannau Hamdden y Fro.

 

Mae’r cynllun hwn yn cynnig mynediad am ddim i ddeg unigolyn at gyfleusterau hamdden a berchnogir gan Gyngor Bro Morgannwg sy’n briodol i’w hanghenion hyfforddi.

 

Diffiniwyd y meini prawf cymhwyster i ffitio blaenoriaethau Cyngor y Fro a Chwaraeon Cymru ac mae’n cynnwys y canlynol:  

 

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn drigolion ym Mro Morgannwg ac yn:

 

  • Cymryd rhan mewn camp a gydnabyddir gan Chwaraeon Cymru ac yn gysylltiedig â’r Corff Llywodraethu Chwaraeon Cenedlaethol a gydnabyddir yn briodol.

 

  • Mae’n rhaid eu bod wedi cyrraedd statws sgwad Cymru neu Brydain ac wedi cynrychioli eu gwlad yn y flwyddyn flaenorol a bod mewn sefyllfa i gyflawni anrhydeddau rhyngwladol pellach yn y flwyddyn ganlynol.

 

 

Os ydych chi'n teimlo eich bod yn bodloni'r meini prawf ac y byddai'n elwa o gael eich hystyried yn aelod o'r Academi Chwaraeon, cysylltwch â KJDavies@valeofglamorgan.gov.uk neu 01446 704793 am ragor o wybodaeth a ffurflen gais.

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth 11 Rhagfyr.