Cost of Living Support Icon

 

Tîm cymorth cymunedol y Fro yn chwarae eu trydedd gêm bêl-droed flynyddol ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y byd 

 

Chwaraeodd tîm Cymorth Cymunedol y Fro eu trydedd gêm bel-droed Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd i godi ymwybyddiaeth o’r digwyddiad. 

 

  • Dydd Iau, 18 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



Roedd y tîm yn cynnwys pobl sy’n gweithio gyda gweithwyr cymorth cymunedol tîm iechyd meddwl ardal y Fro, sydd eisiau gwella eu hiechyd meddwl. 

 

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 10 Hydref bob blwyddyn ac roedd thema eleni yn canolbwyntio ar bobl ifanc a iechyd meddwl mewn byd newidiol.

 

Mae’r diwrnod yn caniatáu i randdeiliaid a gweithwyr siarad am faterion iechyd meddwl yn ogystal â beth arall sydd angen ei wneud i sicrhau bod gofal iechyd meddwl yn realiti i bobl bedwar ban byd.

 

Roedd chwaraewyr y Fro yn chwarae yn erbyn defnyddwyr gwasanaeth o amryw dimau iechyd meddwl cymunedol Casnewydd, ac enillodd y tîm i ffwrdd 8-5 yn stadiwm Parc Jenner y Barri. 

 

Roedd y gêm yn dilyn taith breifat o Stadiwm Dinas Caerdydd.

 

Trefnodd aelodau Tîm Iechyd Meddwl Ardal y Fro, Simon Colston a Sam Small, y diwrnod, yn ogystal â chwarae yn nhîm eleni.

 

Mae’r tîm yn cynnal grŵp pêl-droed wythnosol i gleifion sy’n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl.

 

 

 

 

The Vale’s Community Support team  at Jenner Park

 

Dywedodd Sam Small, Gweithiwr Cymorth Fforensig Cymunedol yng Nghyngor y Fro: “Roedd yn gêm gystadleuol a hwyl iawn, ac roedd pawb fu’n rhan ohono ar ryw adeg wedi dioddef o salwch meddwl, ac i rai dyma’r gêm pêl-droed gyntaf iddynt chwarae ynddi erioed.

 

 “Mae chwaraeon, pêl-droed yn benodol yn yr achos hwn, mor bwysig i bawb sy’n cymryd rhan. Yn ystod yr awr y maen nhw’n chwarae pêl-droed bob wythnos, gallan nhw anghofio am bopeth arall sy’n digwydd yn eu bywydau a mwynhau chwarae gyda ffrindiau.

 

 “Mae’r hunan-barch sy’n cael ei ennill wrth chwarae wedi helpu nifer o’n chwaraewyr i symud ymlaen at waith gwirfoddol ac â thâl, ond yn fwyaf pwysig wedi gwella’u hiechyd.”