Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor Yn Lansio Gwasanaeth Ailgylchu Masnachol Newydd 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio gwasanaeth ailgylchu masnachol newydd i helpu busnesau fodloni’r rheoliadau ailgylchu yn y gweithle diweddaraf yng Nghymru.  

 

  • Dydd Mawrth, 26 Mis Mawrth 2024

    Bro Morgannwg



Commercial recycling with VOGC CYO 6 Ebrill 2024, bydd yn rhaid i bob gweithle yng Nghymru wahanu eu gwastraff i'w ailgylchu yn yr un ffordd ag y mae'r rhan fwyaf o gartrefi’n ei wneud nawr.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r newidiadau hyn i adeiladu ar lwyddiant ailgylchu yn y cartref ac annog cyfraddau ailgylchu uchel ar draws gweithleoedd hefyd. 

 

Mae cyfraddau ailgylchu yng Nghymru ymhlith y gorau yn y byd, ac mae’r Fro yn un o'r Awdurdodau Lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru. 

 

Gall busnesau yn y Fro nawr danysgrifio i dderbyn casgliadau ailgylchu ar wahân gyda gwasanaeth gwastraff masnachol rhad, hyblyg a chynaliadwy'r Cyngor. 

 

Mae'r gwasanaeth yn cynnig tri opsiwn tanysgrifio, sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion busnesau o bob lliw a llun, gyda phrisiau'n dechrau o £104 y flwyddyn. 

 

Opsiwn un yw bag cwad, sy'n addas ar gyfer busnesau bach nad ydynt yn cynhyrchu llawer o wastraff ailgylchadwy. 

 

Dewis dau yw dewis o hyd at bedwar cynhwysydd ailgylchu ar wahân, sy'n addas ar gyfer busnesau bach i ganolig sy'n cynhyrchu swm tebyg o wastraff i aelwyd safonol. 

 

Mae Opsiwn 3 yn becyn pwrpasol sy'n addas ar gyfer busnesau canolig i fawr sy'n cynhyrchu mwy o wastraff. 

 

Mae gan bob busnes ddyletswydd gyfreithiol i waredu gwastraff yn gywir, a elwir yn ddyletswydd gofal. Ar ôl cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, bydd y Cyngor yn rhoi tystysgrif dyletswydd gofal i gwsmeriaid heb unrhyw gost ychwanegol. 

 

Gall busnesau gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ar-lein: https://www.valeofglamorgan.gov.uk/gwastraffmasnachol   

 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:  "Mae'r gwasanaeth ailgylchu masnachol newydd wedi'i gynllunio i gydymffurfio â rheoliadau ailgylchu masnachol newydd Llywodraeth Cymru yn y ffordd hawsaf bosibl i fusnesau yn y Fro. 

 

"Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n caniatáu cymaint o hyblygrwydd am bris cystadleuol. 

 

"Yn unol â menter Prosiect Sero y Cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030, nod y newidiadau yn y rheoliadau yw cynyddu cyfraddau ailgylchu mewn gweithleoedd, lleihau allyriadau carbon, a datblygu economi werddach yng Nghymru."