Cost of Living Support Icon

logo Homes4UCynllun Homes4U

Mae cynllun Homes4U yn cynnig mwy o ddewis i ymgeiswyr am le hoffent fyw.

 

Mae Homes4U yn helpu i ddatblygu cymunedau cynaliadwy ym Mro Morgannwg. Mae systemau tebyg mewn rhannau eraill o’r wlad wedi bod yn llwyddiannus. O dan y cynllun, gall ymgeiswyr:

 

  • wneud cais am gartrefi maen nhw’n wirioneddol eisiau byw ynddyn nhw
  • ganolbwyntio ar ddewisiadau yn hytrach na phwyntiau
  • gwneud cais am gartref mewn ardal lle maen nhw’n dymuno byw

 

Mae’r polisi Homes4U wedi cael ei gytuno gan Gyngor Bro Morgannwg, Cymdeithas Dai Newydd, Tai Wales & West, Tai Hafod a Tai Cymru Unedig. O ganlyniad, bydd pob eiddo sy’n berchen i’r sefydliadau yma’n cael eu hysbysebu yn yr un ffordd.

 

 

l,ogo HomeSwapperCynllun HomeSwapper

Ydych chi’n denant i’r Cyngor sy’n dymuno cyfnewid eich cartref? 

Mae Homes4U wedi ymuno a’r gwasanaeth cyfnewid ar-lein HomeSwapper yn ddiweddar. Os oes gyda chi ddiddordeb yn y cynllun, gallwch chi ddysgu mwy amdano a chofrestru ar wefan HomeSwapper (Saesneg yn unig). Does dim tâl i gofrestru i denantiaid y cyngor ym Mro Morgannwg.

 

Am wybodaeth bellach, ffoniwch:

 

  • tenants@homeswapper.co.uk

 

 

Logo Undeb Credyd Caerdydd a'r FroUndeb Credyd Caerdydd a’r Fro

Gall Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro gynnig nifer o wasanaethau i drigolion a gweithwyr:

  • Cyfrifon Cynilo Oedolion
  • Benthyciadau o gyn lleied â £100
  • Cyfrifon Cynilo Iau
  • Benthyciadau ar gyfer nwyddau'r gegin a'r cartref am gyfraddau cystadleuol drwy'r cynllun gyda'r Co-operative

 

Am wybodaeth bellach, ewch i wefan Cardiff and Vale Credit Union.

 

Logo Table
 valelogo

Tai Wales and West Housing logo  Newydd logo hafod logo united welsh logo small