Cost of Living Support Icon

Polisi Gosodiadau Lleol

Nod Polisi Gosod Lleol (PGLl) yw sicrhau bod datblygiadau tai yng Nghymunedau Gwledig Bro Morgannwg yn gynaliadwy ac yn integreiddio i'r gymuned leol.

 

Maent yn blaenoriaethu ymgeiswyr sydd â chysylltiadau cryf â'r gymuned y maent yn dymuno byw ynddi. Bwriad y polisi yw sicrhau bod preswylwyr newydd yn dymuno aros yn yr ardal a dangos ymrwymiad i'r ardal y byddant yn byw ynddi.

 

 

  • Sut mae'r Polisïau Gosodiadau Lleol yn cael eu datblygu?

    Mae'r polisïau'n cael eu datblygu a'u cytuno mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, y Gymdeithas Dai a'r Cyngor Cymuned sy'n cynrychioli trigolion y gymuned lle mae'r cartrefi'n cael eu datblygu.

  • Sut mae cartrefi sydd â Pholisi Gosodiadau Lleol yn cael eu dyrannu?

    Dyrennir cartrefi sydd a PGLl mewn ffordd wahanol i cartrefi sydd ar gael ar gyfer ceisiadau drwy'r cynllun Homes4U. Mae ymgeiswyr yn y lle cyntaf yn cael blaenoriaeth yn unol â'r PGLl penodol. Ymgeiswyr sydd â'r cysylltiadau cryfaf â'r gymuned sy'n cael y flaenoriaeth uchaf. Yna rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr o fewn y band blaenoriaeth uchaf yn unol â Pholisi Homes4u.

  • Sut mae cartrefi sydd â Pholisi Gosodiadau Lleol yn cael eu hysbysebu?

    Hysbysebir cartrefi ar yr hysbyseb Homes4u wythnosol fel Datganiadau o Ddiddordeb. Gwahoddir ymgeiswyr i'n ffonio tra bo'r hysbyseb ar agor a rhoi manylion penodol mewn perthynas â'r cartref y mae ganddynt ddiddordeb ynddo.

  • Pa fanylion sydd angen eu rhoi wrth alw i fynegi diddordeb?

    Bydd angen i ymgeiswyr roi rhif cofrestru Homes4u a manylion y cartref y mae ganddynt ddiddordeb ynddo. Bydd angen iddynt hefyd ddarparu manylion llawn am eu cysylltiad agosaf â'r ardal. Bydd angen rhoi manylion llawn ar adeg yr alwad megis hanes cyfeiriad, enw a chyfeiriad llawn perthnasau, manylion cyflogaeth ac ati. Ni ellir rhoi'r manylion hyn yn ddiweddarach. Fe'ch cynghorir i ddarllen y PGLl ar gyfer y cartref penodol y mae gennych ddiddordeb ynddo a rhoi manylion llawn yn ymwneud â'r categori blaenoriaeth uchaf sydd gennych yn eich barn chi.

  • Sut mae'r cysylltiad â'r ardal yn cael ei ddilysu?

    Os byddwch ar y rhestr fer ar gyfer cartref, byddwch yn cael eich galw gan gynrychiolydd o Gyngor Bro Morgannwg i wirio cywirdeb y wybodaeth. Unwaith y bydd hyn wedi'i ddilysu, bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo i'r Gymdeithas Dai perthnasol a fydd yn gofyn am dystiolaeth ddogfennol gyfreithiol o'r cysylltiad a nodir. Mae dogfennau derbyniol yn cynnwys tystysgrifau geni i brofi perthnasoedd, biliau cyfleustodau neu wiriadau cofrestr etholiadol ar gyfer cyfeiriad, contractau cyflogaeth neu gadarnhad ysgrifenedig gan gyflogwyr ac ati.


     

  • Am ba hyd y mae Polisi Gosodiadau Lleol yn parhau?

    Mae'r PGLl yn parhau i fod ar waith gydol oes y cartref. Bydd pob ail-osod yn y dyfodol yn cael ei ddyrannu yn unol â'r PGLl.


     

  • Ble mae'r Polisïau Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiadau/eiddo penodol?

    Mae pob un o'n PGLl i'w gweld isod ac fe'u rhestrir gan y ward lle mae'r cartref.


     

Cyswllt

Gallwch gysylltu â'r Swyddog Galluogi Tai Gwledig a fydd yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Katherine Partridge, Swyddog Galluogi Tai Gwledig: 

  • 01446 709476/07720 830673