Cost of Living Support Icon

 

Cwrs Preswyl Cyflogadwyedd

Ydych chi'n byw yn ardal Gibbonsdown neu Dreharne?  Os felly, rydyn ni'n chwilio am bobl ddi-waith i gymryd rhan yn ein cwrs preswyl yn rhad ac am ddim fis Mawrth.

 

  • Dydd Llun, 19 Mis Chwefror 2018

    Barri



forces fitness

 

Mae Cartrefi'r Fro mewn partneriaeth â Forces Fitness yn chwilio am bobl ddi-waith i gymryd rhan mewn Cwrs Preswyl Cyflogadwyedd AM DDIM yn Fferm Gyfylchi ym Mhort Talbot. 

 

Bydd y cwrs yn parhau am 3 diwrnod a dwy nos gan gynnwys pob pryd o fwyd.

 

Mae’r cyrsiau preswyl ar gyfer ceisiwyr gwaith sy’n paratoi i fynd i mewn i’r byd gwaith. Mae’r cwrs preswyl yn helpu i achosi newidiadau bywyd positif gyda gweithdai strwythuredig wedi'u teilwra er mwyn cymell a thanio brwdfrydedd y cyfranogwyr. 

 

Mae Forces Fitness yn fusnes penigamp sydd wedi ymddangos ar sawl rhaglen deledu yn gweithio gyda phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig.  Mae’r adborth a gafwyd gan y cyfranogwyr ynghyd â staff y gymdeithas tai wedi bod yn ardderchog. 

 

Mae eu lleoliad yn ffantastig ac yn ddelfrydol ar gyfer cyrsiau preswyl yng Nghwm Afan, Castell-nedd, gyda golygfeydd anhygoel. Bydd hyn yn cael gwared ag unrhyw beth gartref allai dynnu sylw.   Bydd pob cyfranogwr yn derbyn tystysgrif DPP o’r gweithdai maen nhw'n eu cwblhau.

Forces Fitness logo

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth 20 – Dydd Iau 22 Mawrth 2018

 

Lleoliad:

Bryn Bettws, Fferm Gyfylchi, Pontrhydyfen, Port Talbot, SA12 9SP

 

 

Gweld Lleoliad ar y Map

 

 

Mae’r cwrs yn cynnwys

  • Cyngor Bwyta’n Iach

  • Ymarferion ysgrifennu CV

  • Technegau Cyfweliad

  • Cyflwyniad i Gyflogaeth

  • Cyflwyniad Dragons’ Den

  • Ymarferion Cydweithio

  • Heriau Ffitrwydd

  • Airsoft

  • Gweithdai Achrededig

  • Cyfleoedd Bancio Amser

 

 

Os ydych chi’n ymddiddori mewn cymryd rhan cysylltwch â Shani Payter am ragor o wybodaeth: